MANYLION
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £27,803 i £29,777 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.41 i £15.43 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Mehefin , 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £27,803 i £29,777 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.41 i £15.43 yr awr
Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 3 - Ysgolion(Ysgol Penmaes)Swydd-ddisgrifiad
Bydd disgwyl ichi:
- Cefnogi disgyblion, a chyflwyno gwaith a osodir gan yr athro dosbarth;
- Gweithio'n effeithiol gyda'r athro dosbarth a'r tîm staff cyfan;
- Deall a dangos empathi o ran anghenion disgyblion;
- Bod yn ofalgar eich natur;
- Cyflawni arferion gofal personol os oes angen;
- Cefnogi disgyblion gydag anghenion personol ac emosiynol, gan arfer agwedd o feithrin;
- Cefnogi ymddygiad disgyblion trwy weithredu arferion, ffiniau a chysondeb. Hefyd bydd hyn yn cynnwys adnabod diddordebau disgyblion a sianelu'r rhain yn anghenion dysgu, ymddygiad, cymdeithasol ac emosiynol. Bydd hyn yn golygu gwneud a pharatoi adnoddau;
- Helpu disgyblion i ymgysylltu ar lefel gymdeithasol gyda disgyblion a staff eraill trwy fodelu effeithiol;
- Annog disgyblion i gwblhau tasgau a gwaith a osodir gan ddefnyddio dulliau amrywiol a seilir ar anghenion unigol;
- Cael eich hyfforddi i a gweinyddu meddyginiaethau angenrheidiol disgyblion;
- Gweithio gydag asiantaethau allanol;
- Cyfathrebu'n effeithiol gyda rhieni/gofalwyr;
- Cyfrannu at gofnodi cynnydd disgyblion trwy ddyddlyfr dysgu digidol ar y cyd â'r athro dosbarth;
- Cyflawni unrhyw ddysgu proffesiynol a dybir sy'n briodol ac angenrheidiol
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar fywydau holl ddisgyblion Ysgol Penmaes sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol, profiadau bywyd a phersonoliaethau, sy'n golygu fod pob diwrnod yn amrywiol ac yn ddiddorol.
Bydd gofyn ichi:
- Fod yn agored i heriau a'u croesawu;
- Deall a dangos natur sy'n meithrin;
- Meddu ar sgiliau gwych o ran rheoli ymddygiad;
- Bod yn gyson ac yn amyneddgar;
- Meddu ar brofiad o weithio mewn ysgol gyda disgyblion sydd ag anghenion cymhleth;
- Gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill;
- Bod yn chwaraewr tîm ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu sy'n hanfodol;
- Bod yn llawn cymhelliant ac yn fodlon goresgyn unrhyw her;
- Bod yn fodlon gofyn am gyfarwyddyd a chymorth a derbyn y cyngor a'r cyfarwyddyd a roddir;
- Bod yn wydn eich natur;
- Bod yn ddibynadwy;
- Bod yn hunan-ymwybodol ac yn gallu myfyrio;
- Meddu ar sgiliau rhagorol o ran adrodd a chofnodi;
- Meddu ar sgiliau digidol da ac yn fodlon datblygu'r rhain;
- Cyflawni unrhyw hyfforddiant a dybir sy'n briodol;
- Gallu dilyn cyfeiriadau a chwblhau tasgau a ddirprwyir ichi gan yr athro dosbarth neu uwch arweinyddion;
- Mabwysiadu dulliau gwaith sy'n canolbwyntio ar y disgybl;
- Meddu ar synnwyr digrifwch ac yn unigolyn hwyl i weithio gyda chi;
- Unigolyn digynnwrf;
- Derbyn heriau a llwyddo.
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon