MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwyydd Dysgu Lefel 1 - Ysgol Arbennig

32.5 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn (ynghyd â gwyliau)

Cyflog - Graddfa 4 £23,500 - £23,893 pro rata

Cychwyn Medi 2024 - cyfnod penodol am un flwyddyn

2 swydd ar gael

Rydym yn awyddus i benodi 2 x Gynorthwyydd Dysgu Lefel 1 ar gontract tymor penodol.

Mae'r swyddi ar gyfer 32.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig: Dydd Llun - Gwener.

Bydd angen ichi gael cymwysterau addas gydag o leiaf TGAU ym Mathemateg a Saesneg/Cymraeg; bydd gofyn ichi fod yn ymrwymedig i'ch datblygiad proffesiynol eich hunan ac yn fodlon ymgymryd â hyfforddiant priodol arall, yn ddelfrydol yn arwain at NVQ 2.

Byddai profiad cyfredol o weithio gyda phlant sydd ag anghenion addysgol arbennig yn fantais.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel aelod o dîm yr ysgol, ac yn gweithio dan oruchwyliaeth gyffredinol athrawon dosbarth trwy'r ysgol.

Bydd y rôl hon yn gyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar draws holl ddosbarthiadau Ysgol Penmaes.

Bydd y cynorthwywyr dysgu'n cefnogi'r athrawon dosbarth ac yn cefnogi dysgu a lles disgyblion unigol neu grwpiau o ddisgyblion; hwyrach y byddant yn darparu gofal priodol ar gyfer y disgyblion sy'n ddibynnol, ar lefel bersonol, ar oedolion ar gyfer anghenion sylfaenol. Gall hyn olygu bodloni anghenion o ran mynd i'r toiled a'r angen ar gyfer symud a thrin a thrafod cysylltiedig. Mae'r swyddi'n gofyn am arfer ymrwymedig a hyblyg oherwydd mae lles ein holl ddisgyblion yn hynod bwysig.

Gellir ymgeisio ar gyfer y swyddi hyn ar-lein yma www.powys.gov.uk neu gallwch ofyn am ffurflen gais gan Gyngor Sir Powys.

Dyddiad cau: 16 Mehefin 2024

Cyfweliadau: yr wythnos yn cychwyn 24 Mehefin 2024

Mae'r swyddi'n destun cwblhau'r gwiriadau diogelu canlynol yn foddhaol:
  • Tystlythyrau
  • Ceisiadau DBS
  • Copïau o gymwysterau
  • Cofrestru gyda'r CGA
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS