MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Maesydderwen)

Cyngor Sir Powys
Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Maesydderwen)
Swydd-ddisgrifiad
Lleolir Ysgol Maesydderwen yn harddwch de Powys; mae'r dalgylch yn cynnwys rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Gwlad y Sgydau. Mae'r ysgol mewn lleoliad delfrydol yn nhref fach Ystradgynlais, ac yn rhwydd ei chyrraedd o Gaerdydd, Abertawe a De-orllewin Cymru.

Rydym yn awyddus i benodi Goruchwyliwr Llanw o 1 Medi 2024 tan 31 Awst 2025 i oruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb athro dosbarth. Mae'r swydd yn ystod y tymor ysgol yn unig, 27.5 awr yr wythnos, rhwng 8.45 am a 3.20 pm bob dydd. Bydd goruchwyliaeth lanw'n digwydd pan fydd disgyblion yn cyflawni dysgu hunangyfeiriedig, lle gosodwyd y gwaith ymlaen llaw a gall disgyblion weithio'n annibynnol a glynu wrth y dasg.

Gall unigolyn nad yw'n athro cymwys gyflawni dyletswyddau goruchwylio o ran absenoldebau tymor byr, h.y. "goruchwyliwr llanw". Mae'n bosib y bydd y fath absenoldebau heb eu cynllunio ymlaen llaw e.e. absenoldeb salwch tymor byr neu absenoldeb brys arall, neu gall fod yn absenoldeb a gynlluniwyd e.e. presenoldeb mewn sesiwn hyfforddi mewn swydd neu weithgaredd datblygiad proffesiynol arall neu apwyntiad meddygol.

Rydym yn chwilio am unigolyn hyderus, hyblyg, trefnus a gofalgar ei natur i ategu ein tîm dysgu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws yr holl feysydd cwricwlwm gyda myfyrwyr rhwng 11-16 oed. Mae Ysgol Maesydderwen yn ysgol ddeniadol a'i nod yw gwella'r cyfleoedd sydd ar gael i'n holl bobl ifanc.

Bydd gofyn cael archwiliad manwl y DBS ar gyfer y swydd hon.