MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Deganwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
YSGOL GYNRADD DEGANWY

Park Drive, Deganwy, Conwy, LL31 9YB

Ffôn: (01492) 574600

Pennaeth: Mrs Hâf E Williams

Yn eisiau erbyn Tachwedd 2024 neu ynghynt

DIRPRWY BENNAETH

Cyflog: L4 - L8 £51,697 - £55,776 y flwyddyn

Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant i swydd Dirprwy Bennaeth. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • sgiliau dosbarth ardderchog a phrofiad o fodelu arfer dda, gyda'r gallu i hyfforddi a datblygu cydweithwyr
  • sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol
  • y brwdfrydedd a'r ymrwymiad i addasu ac arwain newid
  • cefndir o hyrwyddo safonau uchel
  • y gallu i weithio'n effeithiol gyda staff, rhieni a llywodraethwyr
  • y gallu i gynorthwyo i gynnal a datblygu'r safonau uchel a'r ymarfer da a sefydlwyd yn yr ysgol eisoes
  • y gallu i ymateb yn gadarnhaol i heriau a rhannu gweledigaeth gadarnhaol yr ysgol
  • y gallu i gyflawni tasgau a chyfrifoldebau a ddyrannir gan y Pennaeth.

Yn gyfnewid byddwn yn cynnig:
  • datblygiad proffesiynol rhagorol a chyfleoedd gyrfa
  • cefnogaeth cydweithwyr ymroddedig a brwdfrydig
  • amgylchedd cefnogol, gofalgar a hapus
  • disgyblion hapus sydd yn awyddus i ddysgu ac yn glod i'r ysgol
  • rhieni cefnogol

Mae'r gallu i addysgu a chyfathrebu yn rhugl ac yn effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd yma.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar (01492) 574600

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein. Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad

This form is also available in English .