MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Disgrifiad

Ysgol Sant Pedr a Reolir yn Wirfoddol gan yr Eglwys yng Nghymru,

Chapel Lane, Yr Orsedd, LL12 0EE

Ffôn: 01244 570594

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Mr Richard Huxley

PENNAETH

I gychwyn Medi 1af 2024 neu cyn gynted a phosibl wedi hynny

Cyflog L11 - L17

Mae Llywodraethwyr Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru St Peters yn gwahodd Penaethiaid mewn swydd, neu ymarferwyr profiadol sydd â chymhwyster CPCP, i wneud cais am rôl Pennaeth.

Lleolir ysgol San Pedr ym mhentref gwledig hardd Yr Orsedd, ger ffin Swydd Gaer. Mae San Pedr yn meithrin ac yn creu amgylchedd dysgu gofalgar a chynhwysol lle mae ein disgyblion wrth galon popeth a wnawn. Mae gennym ddisgyblion uchel eu cymhelliant, staff ymroddedig a chreadigol, rhieni cefnogol a chorff llywodraethol ymroddedig a gweithgar. Rydym yn ysgol sy'n darparu cwricwlwm eang a chytbwys ar gyfer lles corfforol, deallusol, emosiynol, ysbrydol, cymdeithasol a moesol pob plentyn, gan eu harfogi â'r sgiliau ar gyfer eu dyfodol. Fel teulu rydym yn gwasanaethu'r gymuned trwy ddarparu addysg o'r ansawdd uchaf o fewn cyd-destun credoau ac arferion Cristnogol.

Mae'r llywodraethwyr am benodi pennaeth i adeiladu ar ragoriaeth bresennol yr ysgol. Bydd y pennaeth a benodir yn dangos arweinyddiaeth glir, yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol tra'n meithrin ac yn ysbrydoli arfer dosbarth rhagorol. Bydd yr ymgeisydd yn ysgogi ac yn ysbrydoli disgyblion a staff tra'n cadw'r amgylchedd dysgu ar gyfer disgyblion, staff, atheuluoedd wrth galon ein cymuned.

Byddai croeso am ymweliadau â'r Ysgol cyn ymgeisio. I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu apwyntiad ar gyfer ymweliad, cysylltwch â Richard Huxley, Cadeirydd y Llywodraethwyr drwy e-bost at HuxleyR8@Hwbcymru.net

Bydd y Corff Llywodraethol yn ystyried arfer ei hawliau i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt yn yr ystod cyflog sy'n briodol i'w sgiliau a'i arbenigedd, yn unol â'r STPCD. Mae'r swydd hon yn amodol ar Gofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg.

DYLECH DDYCHWEDLYD FFURFLENNI CAIS WEDI EU CWBLHAU YN UNIONGYRCHOL AT GADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR trwy ebost:

HuxleyR8@Hwbcymru.net

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Sylwch fod pob swydd ysgol yn amodol ar DBS uwch (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Sicrhewch fod unrhyw ddogfennaeth ategol sy'n cyd-fynd â cheisiadau yn cael ei chadw i uchafswm o dair ochr A4 o ran maint 12 math Arial.

DYDDIAD CAU: Dydd Sul 2il Mehefin 2024

PROSES CYFWELIAD YN DECHRAU W/C Dydd Llun 10fed Mehefin 2024