MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Rheolwr Busnes yr Ysgol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro

Queensway

Wrecsam

LL13 8UW

Pennaeth: Mrs Kate Owen-Jones

Rheolwr Busnes yr Ysgol

Gweinyddu a Threfniadaeth Lefel 4+

Graddfa Gyflog - G08 (Ystod pwyntiau 22 - 25) £23,559 - £25,585 y flwyddyn

I ddechrau Medi 2024

32.5 awr yr wythnos, yn ystod tymor yr ysgol yn unig, Parhaol.

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro yn dymuno penodi Rheolwr Busnes arloesol a hynod o drefnus.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus dystiolaeth o sgiliau trefniadaeth a rheoli amser a bydd angen bod yn weithiwr annibynnol, sy'n flaengar, yn ogystal â bod yn chwaraewr tîm effeithiol. Bydd angen iddynt feddu ar agwedd gadarnhaol a bod yn hynod o drefnus, yn llawn cymhelliant ac yn gallu gweithio o dan bwysau. Byddant yn weithiwr proffesiynol cadarnhaol a rhagweithiol a fydd yn cefnogi cynnydd a llwyddiant parhaus yr ysgol.

Bydd y Rheolwr Busnes yn cefnogi'r Pennaeth trwy arwain a rheoli agweddau o gyllid, systemau TG a chyfathrebu, cyfleusterau, personél, GDPR a Llywodraethu yn strategol, yn ogystal â rheoli staff gweinyddol a staff y safle. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:

• Brofiad o weithio mewn amgylchedd busnes neu addysg

• Profiad o weithio mewn rôl ariannol

• Sgiliau TGCh effeithiol

• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig

• Y gallu i reoli tîm yn effeithiol

• Y gallu i uniaethu'n dda gyda staff, plant a theuluoedd.

Fel rhan o'r broses gyfweld, rhoddir cyfle i ymgeiswyr gyflawni rhai tasgau amrywiol.

Mae croeso i chi ymweld â'r ysgol - i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Pennaeth ar 01978 340380.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

Mailbox@gwenfro-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 9.00 am Dydd Gwener, 7 Mehefin 2024

CYFWELIADAU; Dydd Iau, 13 Mehefin 2024