MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

GO9 £35,745 - £38,223 y flwyddyn

Contract neu secondiad dros dro llawn amser

I gychwyn bydd y swydd yn secondiad tan 31 Awst 2025, i gefnogi gweithredu diwygiadau ADY yn Wrecsam.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio i gefnogi tîm Cynhwysiant Wrecsam ac yn arwain wrth gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth, gan ddod a theuluoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon ac arweinwyr ysgolion ynghyd.

Mae'r swydd angen ymarferydd profiadol a brwdfrydig sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth wych o ddatblygiad plentyn. Byddant yn gweithio fel aelod gwerthfawr o Dîm Cynhwysiant Wrecsam ac yn gallu rhannu sgiliau a hyfforddi eraill i ddarparu ymyrraeth o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos dealltwriaeth dda o ddatblygiadau cyfredol mewn addysg, yn arbennig o ran y Cwricwlwm, Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol. Bydd ganddynt agwedd hyblyg ac yn gallu cefnogi ymarferwyr, plant a phobl ifanc, mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Sir Wrecsam. Byddant yn gallu defnyddio eu hymarfer da eu hunain wrth arwain adolygiadau yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ysgrifennu deilliannau priodol i blant sydd ag oedi sylweddol a chyfrannu tuag at Gynlluniau Datblygu Unigol.

Mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, ymdeimlad cryf o weithio mewn tîm a pharodrwydd i gyfrannu at ddarparu hyfforddiant yn hanfodol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu a chydlynu gwych ac yn gallu darparu dogfennaeth statudol gan gynnwys Cynlluniau Datblygu Unigol ac adroddiadau proffesiynol. Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.

Dylech gael caniatâd eich Pennaeth os ydych yn ymgeisio am secondiad.

I ddechrau cyn gynted ag y gellir rhyddhau'r ymgeisydd llwyddiannus.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Lisa Duncalf: Lisa.duncalf@wrexham.gov.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.