MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Bro Idris, Dolgellau,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Mai, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cymhorthydd Cefnogol Dysgu Lefel 2 (Rhan Amser) - (Cymhorthydd Anghenion Dysgu Ychwanegol) - Dolgellau
Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG - YSGOLION CYNRADD/UWCHRADD
YSGOL BRO IDRIS, DOLGELLAU
(Cyfun 3 - 16: 572 o ddisgyblion)
Dyddiad cychwyn: cyn gynted â phosib
CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2 (RHAN AMSER)
(CYMHORTHYDD ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL)
Mae Llywodraethwyr yn dymuno penodi Cymhorthydd ADY Lefel 2 i Ysgol Bro Idris, Dolgellau. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad perthnasol a'r rhinweddau penodol ar gyfer y swydd o Gymhorthydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Lefel 2 yn yr ysgol. Gweler y Swydd Disgrifiad a'r Manylion Person am fwy o wybodaeth am y swydd. Arbenigedd mewn nam golwg yn ddymunol ar gyfer y swydd yma.
Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos
40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'ch oriau arferol.
Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 (£16,825 - £17,106) y flwyddyn i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymwysterau.
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth Strategol, Mrs Jano Owen rhif ffôn 01341 424949, e-bost:- pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY (Rhif ffôn: 01341 424949) os y dymunir dychwelyd y cais drwy'r post neu gallwch ebostio'r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU 16 Mai 2024.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
(This is an advertisement for a Learning Support Assistant Level 2 (Special Educational Needs) at Ysgol Bro Idris, Dolgellau Catchment Area All-through School for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
Manylion Person
Profiad
Cymwysterau
Gwybodaeth/Sgiliau
Swydd Ddisgrifiad
SWYDDI: CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU (LEFEL 2)
AMSER: 30 Awr
YSTOD CYFLOG: GS3 - 5 - 6 (£16,825 i £17,106 )
YN ATEBOL I: Y Pennaeth/Uwch Dim Rheoli drwy'r Pennaeth Safle
PWRPAS SWYDD
PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogaeth i Ddisgyblion
CEFNOGAETH I'R ATHRO/ATHRAWES
Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
Cefnogaeth i'r Ysgol

- Gweithio gyda phlant o'r oedran briodol neu ofalu amdanynt.
- Gweithio ar gais gyda disgyblion gydag anghenion ychwanegol.
- Arbenigedd mewn nam golwg yn ddymunol ar gyfer y swydd yma.
Cymwysterau
- Sgiliau rhif/llythrennedd da.
- NVQ2 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth, e.e. RNIB, cymhwyster BSL Lefel 1.
- Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu.
- Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo'n briodol.
Gwybodaeth/Sgiliau
- Bydd y person sy'n derbyn y swydd yn derbyn hyfforddiant gan y Tîm nam golwg a hyfforddiant Braille
- Deunydd effeithlon o TGaCh i gefnogi dysgu.
- Defnyddio offer a thechnoleg sylfaenol arall, e.e. fideo, llungopïwr.
- Deall polisïau /côd ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
- Dealltwriaeth gyffredinol o gyfnod cenedlaethol/sylfaenol, llwybrau cwricwlwm 14-19, a rhaglen/strategaethau dysgu sylfaenol eraill fel y bo'n briodol.
- Dealltwriaeth sylfaenol o ddatblygiad a dysg y plentyn.
- Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
- Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheiny.
Swydd Ddisgrifiad
SWYDDI: CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU (LEFEL 2)
AMSER: 30 Awr
YSTOD CYFLOG: GS3 - 5 - 6 (£16,825 i £17,106 )
YN ATEBOL I: Y Pennaeth/Uwch Dim Rheoli drwy'r Pennaeth Safle
PWRPAS SWYDD
- Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.
- Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
- Cynorthwyo'r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.
- Arbenigedd mewn nam golwg yn ddymunol ar gyfer y swydd yma.
- Bydd y person sy'n derbyn y swydd yn derbyn hyfforddiant gan y Tîm nam golwg a hyfforddiant Braille
PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogaeth i Ddisgyblion
- Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion arbennig, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
- Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol.
- Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
- Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau a pholisiau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
- Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.
- Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
- Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
- Dan arweiniad yr athro/awes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
- Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunan-hyder.
- Darparu adborth effeithlon i'r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad
CEFNOGAETH I'R ATHRO/ATHRAWES
- Darparu adborth manwl a rheolaidd i'r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.
- Cysylltu â'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
- Cysylltu â'r athro i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
- Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu ac ymgymryd â chadw cofnodion disgyblion ar gais.
- Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes mewn perthynas â chynnydd y disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
- Cymhwyso polisi ysgol mewn perthynas â hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
- Gweinyddu profion gweithdrefnol a goruchwylio arholiadau.
- Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.
Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
- Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytøn.
- Ymgymryd â rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu.
- Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion yn y defnydd ohono.
- Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.
- Ymgymryd â rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd a TGaCh.
- Cefnogi'r defnydd o TGaCh yn nysgu'r disgyblion a'u hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.
- Paratoi, cynnal a defnyddio'r offer a'r adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r rhaglenni addysgu a'r gweithgareddau dysgu cytøn.
- Cysylltu'n sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda'r athro.
- Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.
Cefnogaeth i'r Ysgol
- Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol.
- Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
- Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.
- Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt ar gais.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
- Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
- Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro.
- Pe byddai angen, disgwylir i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio ar unrhyw safle yn ôl y gofyn.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi