MANYLION
  • Lleoliad: Abergavenny, Monmouthshire, NP7 9LS
  • Testun: Goruchwyliwr Canol dydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

GORUCHWYLYDD CANOL DYDD - Ysgol Gynradd Llanfoist

Cyngor Sir Fynwy
Pwrpas y Rôl hon:-
Yn helpu cynnal diogelwch yr holl ddisgyblion yn y Cyfnod Sylfaen neu Gyfnod Allweddol 2 yn ystod yr awr ginio, gan sicrhau bod y sawl sydd yn bwyta bwyd yn neuadd yr ysgol yn gwneud hynny mewn awyrgylch trefnus a phriodol. Yn goruchwylio dysgwyr yn ystod yr awr ginio pan eu bod y tu allan, gan sicrhau eu bod yn cael eu hannog i chwarae gyda’i gilydd.


Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Rôl hon:-
• Cynorthwyo i baratoi neuadd yr ysgol ar gyfer cinio;

• Goruchwylio’r plant sydd yn bwyta cinio yn neuadd yr ysgol

• Cynorthwyo i oruchwylio neuadd yr ysgol, gan gynnwys:-

 annog ymddygiad da;
 defnyddio cyllyll a ffyrc yn gywir a’u helpu os oes angen;
 annog plant i fwyta’n gywir ac osgoi gwastraffu bwyd;
 delio gydag unrhyw beth sydd yn cael ei dywallt a damweiniau sydd angen sylw brys

• Cynnal perthynas effeithiol gyda disgyblion yn ystod amseroedd chwarae strwythuredig

• Rheoli perthynas y disgyblion tra’n goruchwylio yn yr awyr agored.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:-
• Gweithio fel rhan o’r tîm er mwyn trefnu cinio yn y neuadd drwy drefnu byrddau, cyllyll a ffyrc a diodydd
• Yn cynorthwyo i sicrhau bod disgyblion yn mynd i mewn ac allan o’r neuadd yn drefnus
• Yn trefnu bob blwyddyn fel eu bod yn medru casglu eu bwyd
• Helpu disgyblion ag agor bwyd, tywallt diodydd, clirio platiau, torri bwyd fel sydd angen
• Yn sicrhau bod disgyblion yn clirio’r holl fwyd o’r byrddau
• Yn clirio ac yn glanhau byrddau a’n clirio ar ôl gorffen
• Yn goruchwylio disgyblion yn yr awyr agored a’n annog hwy i chwarae gyda’i gilydd
• Yn dechrau ac yn cefnogi’r disgyblion i chwarae gemau
• Siarad gyda disgyblion pan fydd yna anghytundeb neu os ydynt yn chwarae’n annheg
• Rheoli perthynas disgyblion gyda’i gilydd
• Yn rhoi cymorth cyntaf os oes angen
• Yn cyfathrebu yn effeithiol gyda’r athro/athrawes ddosbarth pan fydd angen