MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gogydd Mewn Gofal - Ysgol Morgan Llwyd

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

COGYDD MEWN GOFAL - YSGOL MORGAN LLWYD

G05 £12.59 - £13.02 yr awr

£24,294 - £25,119 ar sail cyfran

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG

30 AWR YR WYTHNOS

38 wythnos y flwyddyn

Rydym eisiau penodi rhywun awyddus a brwdfrydig i reoli a datblygu'r gwasanaeth arlwyo prydau ysgol yn Ysgol Morgan Llwyd.

Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais.

Dylai'r ymgeisydd delfrydol fod â chymwysterau arlwyo priodol, dal cymhwyster hylendid bwyd, a bod â sgiliau a galluoedd profedig o reoli gweithrediad arlwyo, yn ogystal â dealltwriaeth o egwyddorion coginio iach.

Mae'r dyletswyddau'n cynnwys:

• Goruchwylio'r gweithrediad arlwyo prydau ysgol.

• Cyrraedd targedau perfformiad a osodwyd ar gyfer y gwasanaeth o ran llafur, costau bwyd, rheoli stoc ac ansawdd y gwasanaeth.

• Dyletswyddau coginio medrus yn gysylltiedig â'r amrywiaeth lawn o brydau a ddarperir.

• Gweithredu system gyfrifiadurol gweinyddu prydau ysgol.

• Sicrhau cydymffurfio â deddfwriaeth a gweithdrefnau.

• Dyletswyddau gweinyddol.

Cewch lenwi ffurflen gais ar-lein neu ofyn am becyn cais oddi wrth: Susan Thomas, Adain Gwasanaethau Cefnogol, Adran Tai a'r Economi, Ffordd Rhuthun, Wrecsam. LL13 7TU -Rhif ffôn: 01978 315647.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.