MANYLION
                  
                              - Oriau: Part time
 - Cytundeb: Dros dro
 - Math o gyflog: Annual
 - Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £25,979 i £27,334 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.46 i £14.16 yr awr
 - Iaith: Cymraeg
 
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £25,979 i £27,334 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.46 i £14.16 yr awr
Cogydd â Chyfrifoldeb (Gogledd Powys)Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Lleolir y Cogydd Symudol hwn mewn cegin ysgol un ai yn y Drenewydd neu y Trallwng. 25 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig, sef 38 wythnos. Mae yna bob amser cyfle am waith ychwanegol yn ystod gwyliau'r haf am ein bod ni'n cynnal rhaglen hwyl a bwyd yn rhai o'n hysgolion, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Amdanoch chi:
- Bydd angen i chi gael trwydded yrru a'ch modd eich hun o deithio ac yswiriant busnes.
 - Mae'n hanfodol cael profiad a chymwysterau mewn Coginio (diogelwch bwyd lefel 2 neu gyfwerth)
 - Ymagwedd hyblyg at amseroedd gwaith y dydd
 - Sgiliau cyfathrebu ardderchog
 - Gweithio'n dda mewn tîm neu ar eich pen eich hun
 - Meddu ar beth gwybodaeth am ddietau arbennig ac alergeddau
 
Bydd y cogydd symudol yn helpu i gyflenwi dros absenoldebau staff yn ardal canolbarth Powys. Un ai cynorthwyo cogydd mewn cegin ysgol uwchradd, neu ysgol gynradd fawr neu gyflenwi a chymryd mwy o gyfrifoldeb ar ran cogydd mewn ysgol gynradd lai o faint.
Bydd y cogydd yn gyfrifol am gadw at bolisïau a gweithdrefnau Powys sydd gennym mewn lle yn ein ceginau.
Paratoi, coginio a gweini prydau i ddisgyblion o bob oed gan ddilyn ein canllawiau maethol a rheoli dognau.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y rôl hon, cysylltwch:
Rheolwr Arlwyo'r Ardal Jayne Perry 01686 611589
Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 19/06/2024