MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Crossgates)

Cyngor Sir Powys
Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Crossgates)
Swydd-ddisgrifiad
Darpariaeth Ategol yn Ysgol Gynradd Y Groes

Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1

32.5 awr yr Wythnos / 39 wythnos y flwyddyn (ynghyd â hawl i wyliau)

Oriau ar gytundeb 32.5 yr wythnos yn ystod y tymor yn unig

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1 brwdfrydig ac ymroddedig i weithio ochr yn ochr â'r CAD yn ein darpariaeth Ategol gyntaf, a agorodd ym mis Medi 2021 yn Ysgol Gynradd Y Groes, Llandrindod. Mae'n gyfle cyffrous i'r ymgeisydd cywir fod yn rhan o'r trawsnewid cyffrous hwn i Gyngor Sir Powys fel rhan o'r trawsnewid ADY.

Mae'r swydd am 32.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig: Llun - Gwener

Bydd angen i chi fod â chymwysterau addas gydag o leiaf TGAU mewn Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg (neu gyfwerth); mae angen i chi fod yn ymroddedig i'ch datblygiad proffesiynol eich hun a bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol arall, gan arwain at NVQ 2 yn ddelfrydol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm ysgol Penmaes, ond wedi'i leoli yn y ddarpariaeth ategol gan weithio o dan oruchwyliaeth gyffredinol y CAD gyda chyfrifoldeb am y ddarpariaeth.

Bydd y cynorthwy-ydd addysgu Lefel 1 yn cefnogi'r CAD i hwyluso dysgu a lles disgyblion neu grwpiau unigol. Byddwch yn darparu gofal priodol ar gyfer y disgyblion hynny sy'n dibynnu'n bersonol ar oedolion i fodloni eu hanghenion. Gall hyn gynnwys bodloni eu hanghenion toiled gyda gofynion symud a chario cysylltiedig. Mae'r swydd yn gofyn am agwedd ymroddedig a hyblyg gan fod lles ein holl ddisgyblion yn hynod bwysig.

Dyddiad cau: 19 Mai 2024

Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 3 Mehefin 2024

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS