MANYLION
  • Lleoliad: Chepstow, Monmouthshire, NP16 5JP
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 Canolfan Ddysgu Ychwanegol

Cyngor Sir Fynwy
Mae Canolfan Dysgu Ychwanegol Ysgol Gynradd Penfro yn lleoliad ysgol gynradd gofalgar a chefnogol, sy’n ymroddedig i gyflawni potensial plant gydag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn edrych ymlaen at recriwtio cynorthwyydd addysgu angerddol, gofalgar a brwdfrydig i ymuno a’n tîm o staff cyfeillgar a phroffesiynol. Edrychwn am rywun sy’n angerddol am gefnogi anghenion unigol yr holl blant ac sy’n ymroddedig i’w datblygiad proffesiynol eu hunain.

Ein diben:-
Mae ‘Hapusrwydd a Sicrwydd, Dysgu gyda’n gilydd’ yn cyfleu calon Ysgol Gynradd Penfro. Credwn fod yr ysgol yn cynnig addysg ragorol sy’n llawn her, diddordeb a phrofiadau dysgu cofiadwy i’r holl blant. Yn ychwanegol, caiff plant eu hannog i gynyddu eu hunandyb a hyder, i ddatblygu hunan-ddibyniaeth, i gymryd risgiau heb ofn methu ac i wneud penderfyniadau am eu dysgu eu hunain. Credwn hefyd mai dim ond drwy ddatblygu perthynas agos rhwng y cartref a’r ysgol y gallwn gyflawni’r gorau ar gyfer ein disgyblion.




Diben y swydd hon:-
• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu a/neu aelodau o dîm arweinyddiaeth yr ysgol.
• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
• Cynorthwyo/r athro/athrawes i reoli disgyblion o fewn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Cefnogaeth i ddisgyblion

• Goruchwylio a rhoi cefnogaeth neilltuol i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a mynediad i weithgareddau dysgu.
• Cynorthwyo gyda dysgu a datblygiad pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg Unigol/Ymddygiad a rhaglenni Gofal Personol – yn cynnwys defnyddio’r toiled, bwydo a symudedd.
• Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau ar gyfer yr awdurdod lleoli a pholisïau’r ysgol.
• Hyrwyddo cynhwysiant a derbyn pob disgybl.
• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Gosod disgwyliadau heriol a hyrwyddo hunanbarch ac annibyniaeth.
• Rhoi adborth i ysgolion yng nghyswllt cynnydd a chyflwyniad dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Gweithredu strategaethau i annog annibyniaeth a hunan-hyder.
• Rhoi adborth effeithiol i ddisgyblion yng nghyswllt rhaglenni a chydnabod a gwobrwyo cyflawniad.

Cefnogaeth i’r athro/athrawes

• Rhoi adborth manwl a rheolaidd i athrawon ar gyflawniad a chynnydd disgyblion, rhwystrau i ddysgu ac yn y blaen.
• Cydlynu gyda’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
• Cydlynu gyda’r athro/athrawes i rannu cynllunio tymor byr ac amcanion dysgu penodol ar gyfer grwpiau penodol, unigolion, dosbarth cyfan.
• Monitro ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu a chadw cofnodion disgyblion yn ôl cais.
• Sefydlu trefniadau i sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithiol i’r athro/athrawes yng nghyswllt cynnydd disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
• Gweithredu polisi’r ysgol yng nghyswllt hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol gan ddisgyblion ac agweddau at ddysgu.
• Gweinyddu profion arferol a goruchwylio arholiadau.
• Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol fel sydd angen; e.e. llungopïo, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.

Cefnogi’r cwricwlwm
• Cynnal rhaglenni gweithgareddau dysgu/addysgu strwythuredig ac a gytunwyd.
• Cynnal rhaglenni yn gysylltiedig gyda strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu.
• Cefnogi defnyddio TGCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion mewn defnyddio TGCh.
• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sydd eu hangen i gyflawni cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo disgyblion i’w defnyddio.
• Cynnal rhaglenni yn gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol e.e. llythrennedd, rhifedd a TGCh.
• Cefnogi defnydd TGCh mewn dysgu disgyblion a’i hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.
• Paratoi, cynnal a defnyddio’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r rhaglenni addysgu a gweithgareddau dysgu a gytunwyd.
• Cydlynu mewn modd sensitif ac effeithiol gyda rhieni a a gofalwyr fel y cytunwyd gyda’r athro/athrawes.
• Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a chyfrannu at adolygiadau blynyddol yn unol ag arfer yr ysgol.

Cefnogaeth i’r ysgol
• Gwybod am a chydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â chynhwysiant, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a sicrwydd, cyfrinachedd a diogelu data, gan hysbysu person priodol am bob mater o gonsyrn.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
• Gwerthfawrogi a chefnogi rôl gweithwyr proffesiynol eraill.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol fel sydd angen.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac adolygiad proffesiynol fel sydd angen.
• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion allan o amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl yr ysgol ac ar adegau cinio.
• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, tripiau a gweithgareddau allan o’r ysgol fel sydd angen a chymryd cyfrifoldeb am grŵp dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.

Disgwylir i chi hefyd wneud unrhyw ddyletswyddau eraill y gall Pennaeth yr Ysgol wneud cais rhesymol amdanynt o bryd i’w gilydd.