MANYLION
- Lleoliad: Various,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Mai, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG - ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD
Yn eisiau: Cyn gynted â phosib
Uwch Athro/awes Cynhwysiad Gwynedd a Môn.
Swydd dros dro hyd at flwyddyn o'r penodiad, yn y lle cyntaf (Gellir ystyried Secondiad)
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy'n frwdfrydig i weithio gyda disgyblion ag anawsterau yn y maes Cynhwysiad. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ar draws Gwynedd ac Ynys Mon mewn ysgolion a chanolfannau. Byddai profiad o gefnogi disgyblion yn y maes cynhwysiad yn fanteisiol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig i'r ymgeiswyr llwyddiannus.
Mae lleoliadu'r swydd yn amrywio oddi fewn Gwynedd ac Ynys Mon a bydd gofyn i'r ymgeisydd deithio i ardaloedd eraill yn achlysurol. Cyngor Gwynedd fydd y cyflogwr ar gyfer y Gwasanaeth.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) ynghyd a lwfans anghenion addysgol arbennig (£2,585 - £5,098) a Lwfans CAD 2b (£5,447) y flwyddyn yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae'r adran yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Am sgwrs anffurfiol a manylion pellach am y swydd gellir cysylltu â Ellen Rowlands, Rheolwr Cynhwysiad ar rif ffôn 01286 679007.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
DYDDIAD CAU: 10:00y.b. Dydd Llun, 13 o Fai 2024
Cyfweliadau i'w gynnal 21.05.2024.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn y swydd.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
(This is an advertisement for a Temporary Senior Inclusion Teacher Gwynedd and Môn, for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start in the role ).
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwangol a Chynwsiad (ADYaCH)
Ysgolion a Chanolfannau Arbenigol Gwynedd ac Ynys Môn
Pwrpas y Swydd
Byddent yn cyflawni hyn drwy:
Cyfrifoldeb am Adnoddau
Rheolwr Llinell dydd i ddydd
Prif Ddyletswyddau
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol a darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y dogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

- Sicrhau bod pobl Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Sicrhau fod yr Awdurdod yn cyflawni gofynion statudol parthed sicrhau Addysg a Lles plant
- Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer ysgolion a Chanolfannau arbenigol i gefnogi disgyblion ystod oedran 13-16 sydd â anawsterau ymddygiadol / emosiynol
- Sicrhau fod darpariaeth Addysg i ddisgyblion sydd â anawsterau ymddygiadol / emosiynol mewn achosion o waharddiadau ayb
- Sicrhau ansawdd a chysondeb yn y maes cynnal ymddygiad a chynhwysiad drwy'r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth.
- Sicrhau bod gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd y gwasanaeth yn cael ei eu harddel ac yn ganolog yn niwylliant y gwasanaeth.
Byddent yn cyflawni hyn drwy:
- Dysgu a gweithredu strategaethau cytunedig o fewn safleoedd
- Treulio cyfnodau ar lawr dosbarth yn arsylwi, modelu a monitro
- Sicrhau ansawdd a chyfrannu i / at gynllunio ar gyfer gwella'r ddarpariaeth yn unol â gweithdrefnau'r gwasanaeth
- Cefnogi ysgolion drwy ddarparu ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau parod.
- Arwain darpariaeth/ tîm ymddygiad a chanolfannau cynhwysiad yn effeithiol gan ymgymryd â dyletswyddau proffesiynol a ddirprwyir.
Cyfrifoldeb am Adnoddau
Rheolwr Llinell dydd i ddydd
- Hybiau Cynhwysiad
- Swyddogion Cynhwysiad
- Cofrestr AHY ( Addysg Heblaw Ysgol)
- Darpariaeth disgyblion bl9
- Plant sydd allan o Addysg
- Plant sydd yn methu allan ar Addysg
- Rhaglen Hyfforddiant Gwasanaeth Cynhwysiad
Prif Ddyletswyddau
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol a darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y dogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
- Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol eraill drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
- Cyfrannu at gynlluniau strategol ysgolion unigol ym maes ymddygiad, cynhwysiant ac ADY yn gyffredinol
- Treulio cyfnodau ar lawr dosbarth a thu allan i ysgolion yn arsylwi, modelu a monitro
- Cefnogi ysgolion ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau parod
- Sicrhau arweiniad a chefnogaeth i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Athrawon a Phenaethiaid yn y maes cynnal ymddygiad a chynhwysiad.
- Sicrhau arweiniad a chefnogaeth i'r tîm Addysg Dewisol Gartref
- Sicrhau prosbectws o gyfleon/darpariaethau i ddisgyblion sydd yn derbyn eu haddysg oddi ar brif safle ysgol ac monitro ansawdd y ddarpariaeth.
- Paratoi a chyflwyno arweiniad cwricwlaidd - pynciau craidd, cwricwlwm ehangach ynghyd â chwricwlwm therapiwtig i unigolion neu grwpiau sydd yn derbyn darpariaeth hybiau
- Sicrhau fod disgyblion yr hybiau yn ymgysylltu â'r gwaith ac yn gwneud cynnydd tuag at gwblhau cyrsiau achrededig
- Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy gymryd cyfrifoldeb ymgynghorol am gynllunio strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol; yn enwedig anhwylderau ymddygiadol ag emosiynol.
- Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion AHY (Addysg Heblaw Ysgol) drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau yn unol â gweithdrefnau'r gwasanaeth.
- Cydweithio gydag ysgolion ar gyfer datblygu'r arbenigedd cynnal ymddygiad o fewn yr ysgol.
- Cyfrifoldeb am hunan reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu achosion
- Cynhyrchu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer ysgolion a rhieni yn y maes anghenion ymddygiad ag emosiynol.
- Datblygu a chydgordio rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo ysgolion a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o anghenion ymddygiad ag emosiynol.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol â blaenoriaethau'r gwasanaeth.
- Llunio amserlen a rhaglenni gwaith disgyblion AHY yn ôl yr angen
- Llunio agenda cyfarfodydd tîm perthnasol a chadw cofnodion
- Sicrhau arweiniad clir i'r Swyddogion Cynhwysiad.
- Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn ein hysgolion.
- Cydweithio efo Uwch Seicolegydd a'r Rheolwr Gwasanaeth Gynhwysol mewn perthynas a threfnu cynlluniau datblygu tîm ymddygiad
- Cyd ddatblygu rhaglen hyfforddiant penodol yn y maes cynhwysiad.
- Adrodd ar gynnydd disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y gwasanaeth Cynhwysiad
- .Cyd gordio gwaith y swyddogion cynhwysiad gan sicrhau gweithrediad rhanddeiliaid perthnasol.
- Arfarnu ansawdd yr addysgu ac yr arweiniad a gyflwynir yn yr hybiau
- Cydweithio'n agos gyda Swyddogion Ansawdd ADY a Chynhwysiad y Gwasanaeth i sicrhau map darpariaeth pwrpasol, effeithiol a hyblyg i ymateb i anghenion dysgwyr sydd ag anawsterau ymddygiadol emosiynol yn ysgolion yr Awdurdod Addysg Lleol.
- Cyfrannu tuag at adrodd yn chwarterol ar gynnydd yn erbyn targedau a osodwyd yn y cynllun busnes.
- Trefnu a gweithredu profion ac asesiadau yn ôl y gofyn.
- Cyfrannu mewn cyfarfodydd tîm rheoli'r gwasanaeth.
- Cynnal cyswllt agos efo gweithwyr cyffelyb o fewn y sector addysg, gwasanaethau cymdeithasol a iechyd
- Gweithredu yn unol â chanllawiau diogelu cadarn
- Gweithredu'r Còd Ymarfer Anghenion Ychwanegol o ran cefnogi disgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol emosiynol
- Mynychu cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol ar gais Rheolwr Cynhwysiad.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi