MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Chwarae Cymunedol x 6

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Gweithiwr Chwarae Cymunedol

Graddfa 04 £23,500 - £23,893 Pro rata

Hyd at 30 awr yr wythnos yn ystod gwyliau ysgol (ac eithrio'r Nadolig)

Mae Tîm Datblygu Chwarae CBSW am geisio cynyddu nifer y cyfleoedd chwarae o safon uchel i bob plentyn yn Wrecsam. Ar hyn o bryd ef sy'n gyfrifol am reoli a datblygu nifer o gynlluniau chwarae cymunedol mynediad agored. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar yr egni a'r penderfyniad i feithrin a hyrwyddo amgylchiadau chwarae arbennig o wych i blant 5 oed hyd at 15 oed, am hyd at 6 awr y dydd.

Bydd yr ymgeiswyr wedi ymrwymo i ddarparu chwarae o safon uchel ac i arddel egwyddorion gwaith chwarae. Byddant hefyd yn deall yn iawn pa mor bwysig yw chwarae ym mywydau'r plant. Bydd pob un o'r ymgeiswyr yn gorfod dangos eu bod yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyflogi ar gontract ysbeidiol ac fe gynigir y gwaith iddynt fel y bydd ef ar gael. Ni allwn sicrhau gwaith am nifer benodol o oriau yr wythnos.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.