MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Glanhawr a Gofal Symudol

Glanhawr a Gofal Symudol

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Yn eisiau mor fuan a phosib

Glanhawr a Gofal Symudol

I weithio fel rhan bwysig o'r tîm glanhau. Dyletswyddau i gadw ardal benodedig yn lan, ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.

20 awr yr wythnos yn ystod tymor yr Ysgol.

GS1 pwynt 2 - £11.59 yr awr (£9.77 wedi ei gyfartalu)

Cyflog wythnosol - £195.40

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus a byddwch yn derbyn e-bost gan 'noreply@employmentcheck.org.uk' i cwblhau ffurflen DBS ar lein.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu Saesneg a bydd ceisiadau yn cael ei drin yn gwbl gyfartal.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Dyddiad Cau: 26/04/2024

Ffurflenni cais oddi wrth ac i'w dychwelyd i: Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Caernarfon. Rhif Ffôn: 01286 679076

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
-
Dymunol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Hyfforddiant mewn gweithdrefnau glanhau Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Profiad perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Profiad o weithio mewn swydd glanhau
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
-
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Goruchwylio staff glanhau ar y safle pam mae'r angen. • Ymgymryd yn arferol fel rhan o dîm gwaith glanhau rhannau penodedig ar safle'r ysgol i sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n lân ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Offer

• Staff
Prif ddyletswyddau
Cyffredinol

• Mewn ymgynghoriad â'r Rheolwr Contract Ardal bod yn gyfrifol am archebu defnyddiau glanhau.

• Glanhau man diffiniedig o'r safle a chloi y safle ar ôl y cyfnod glanhau. Goruchwylio'r staff glanhau ar y safle.

• Hyn i gynnwys ardystio taflenni gwaith.

Tasgau Dyddiol

• Datgloi yr holl gatiau a diffodd y system larwm. Datgloi pob drws mynediad a phob drws ystafell ddosbarth hanner awr cyn agor y sefydliad yn y bore yn unol â cyfarwyddiadau'r Pennaeth.

• Yn ystod cyfnodau gwresogi fel a enwir gan y Pennaeth, sicrhau bod y system wresogi'n gweithio ar y lefel iawn er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y tymheredd angenrheidiol erbyn amser agor y sefydliad.

• Lle bydd peirianwaith amseru otomatig yn rheoli'r system wresogi, sicrhau bod y system yn gweithredu fel sydd angen cyn agor y sefydliad.

• Adrodd wrth y Pennaeth am unrhyw ddiffygion neu afreoleidd-dra a welwyd mewn gwresogyddion unigol neu yn y system wresogi gyffredinol.

• Glanhau a chlirio'r holl sbwriel sy'n gwneud i'r lle edrych yn flêr neu a allai fod yn beryglus, e.e. tuniau gwag, gwydr wedi malu neu boteli, o bob portsh a phob man caled o amgylch yr adeilad, cyn i'r gweithwyr gyrraedd yr adeilad.

• Archebu a dosbarthu tyweli papur, rholiau papur toiled a sebon hylif i olchi dwylo trwy'r sefydliad fel bo'r angen.

• Adrodd wrth y Pennaeth am unrhyw ddifrod y canfyddir iddo ddigwyd i eiddo'r ysgol, ddiffygion mewn ffitiadau neu draeniau drewllyd a.y.y.b na ellir delio gyda hwy.

• Ar adeg cau'r sefydliad, sicrhau bod yr holl oleuadau wedi eu diffodd ar gwresogyddion/systemau gwres canolog wedi ei gosod yn barod i weithio os bydd eu hangen, fel sy'n briodol ar gyfer yr amodau tywydd.

• Sicrhau nad oes defnyddiau hylosg yn rhy agos at wresogyddion a.y.y.b.

• Cau a chloi'r prif giatiau fel sy'n briodol ar ddiwedd y dydd.

Tasgau o bryd i'w gilydd

• Cadw trapiau draeniau a chwteri mewn cyflwr glân a glanhau trapiau saim bob wythnos.

• Gwagio'r biniau sbwriel sydd tu allan gan roi'r sbwriel mewn bagiau plastig a chael gwared ohono fel gyda sbwriel geir tu allan i'r adeilad. Gosod bagiau plastig newydd ym mhob bin, os darperir hwy. Gwagio bocsus glas ail gylchu ir biniau ail gylchu sydd wedi eui ddarpar

• Monitro'r defnydd i drydan, nwy a dw^r trwy gyfrwng pa drefn bynnag a fabwysiedir gan y Cyngor. Mae'r drefnu bresennol yn golygu cofnodi darlleniad pob mesurydd perthnasol bob mis a chyfrifo faint a ddefnyddir bob mis ar gardiau cofnodi arbennig.

• Cadw adeiladau bwyleri mewn cyflwr glân a thaclus a sicrhau nad oes defnyddiau hylosg ynddynt.

• Cadw pob man chwarae gyda wyneb caled, mannau parcio, llwybrau a lonydd, storfeydd nwy petrolewm a.y.y.b yn rhydd o chwyn cerrig rhydd a glanhau'r holl sbwriel e.e. gwydr, tuniau a photeli, papur neu sbwriel arall, dail, toriadau glaswellt a.y.y.b. a'u cadw mewn cyflwr taclus. Clirio eira fel sy'n briodol a thaenu halen craig er mwyn cadw mannau mynediad yn ddiogel yn ystod eira neu rew. Darperir halen craig gan yr Ysgol.

• Gosod bylbiau golau ffitiadau fflwroleuol newydd os yn abl i'r gwaith.

• Agor a chloi ar gyfer gweithgareddau gyda'r nos ar ddealltwriaeth o'r ddwy ochr.

• I ymgymryd a mân trwsio e.e. bordio ffenestri a dorrwyd os yn abl i'r gwaith.

• I ymgymryd â gwaith wythnosol o brofi offer tân, tapiau, cawodydd a "sprinklers" dwr os yn berthnasol.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi