MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Brysbennu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad gwaith: Swyddfeydd Coed Pella

Rydym yn chwilio am Swyddog Brysbennu newydd i ymuno â'n tîm cyflogadwyedd cyfeillgar pan fydd Bernie, ein Swyddog Brysbennu presennol yn ymddeol ddiwedd mis Mawrth.

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn darparu ystod o gefnogaeth cyflogadwyedd i bobl ddi-waith sy'n byw yn sir Conwy sydd â rhwystrau cymhleth, yn cynnwys rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru. Mae'r Tîm yn cynnwys nifer o fentoriaid cyflogadwyedd arbenigol a staff ymgysylltu.

Mae'r Swyddog Brysbennu yn rôl allweddol o fewn ein tîm gan eu bod yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i bobl sydd eisiau cymorth i ddod o hyd i waith yn ogystal â sefydliadau partner sydd eisiau cyfeirio pobl atom. Byddwch yn gyfrifol am asesu a blaenoriaethu pobl sy'n cysylltu â ni neu eu cyfeirio at gymorth priodol arall yn lleol.

Bydd angen i chi fod yn hyderus, cyfeillgar, hawdd mynd atoch ac empathig gyda sgiliau trefnu a chyfathrebu ardderchog ac yn hyderus yn defnyddio ystod o systemau TG yn cynnwys sgiliau bysellfwrdd da.

O bryd i'w gilydd, bydd disgwyl i chi hefyd deithio i wahanol leoliadau partner a chymunedol ar draws sir Conwy i helpu i gofrestru ac ymgysylltu â phobl allan yn y gymuned.

• Byddwch yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, am hyd at 37 awr yr wythnos, o'n swyddfeydd cynllun agored o'r radd flaenaf yng nghanol Bae Colwyn, gyda'r dewis i weithio o gartref yn achlysurol yn dilyn cyfnod o hyfforddiant a datblygu.

Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn elwa o hyfforddiant, datblygiad ac aelodaeth am ddim i Sefydliad Gweithwyr Proffesiynol Cyflogadwyedd.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Lyndon Ryan, Swyddog Cyllid a Monitro (01492 574070,Lyndon.ryan@conwy.gov.uk)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanafodol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.