MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro\/Athrawes Dysgu Gartref

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad gwaith: Canolfan Addysg Conwy

Rydym yn edrych i benodi Athro Addysg Gartref brwdfrydig ag ysbrydoledig i weithio o fewn Gwasanaeth Cynhwysiant Cymdeithasol Gwasanaeth Addysg Conwy. Mae'r gwasanaeth Gwersi Gartref wedi ymrwymo i ddarparu addysg a chefnogaeth o ansawdd uchel i ddisgyblion ag ystod o gyflyrau meddygol cymdeithasol a'r rhai â salwch na allant fynychu'r ysgol neu na fyddent fel arall yn cael addysg addas.

Mae arnom angen unigolyn uchel ei gymhelliant, sy'n gallu dangos ymrwymiad cryf i nodau, gwerthoedd ac ethos cynhwysiant, gyda phrofiad o gyflwyno canlyniadau rhagorol i ddisgyblion ag anghenion unigol sylweddol.

Bydd y swydd yn rhan o dîm Canolfan Addysg Conwy sy'n cefnogi dysgwyr o Gyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol 4 i gael mynediad i wersi gartref. Bydd gan ddysgwyr sy'n defnyddio'r ddarpariaeth hon anghenion iechyd a nodwyd sy'n golygu na allant gael mynediad i ddarpariaeth addysg yn eu lleoliad arferol ar hyn o bryd. Bydd y swydd yn darparu addysg i'r dysgwyr hyn yn ystod cyfnodau pan na allant gael mynediad i leoliadau arferol a chymorth gyda'r broses ailintegreiddio.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun Datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru â'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn dechrau'r swydd.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Gwyn Owen, Pennaeth, 01492 514925 Owena424@hwbcymru.net

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.