MANYLION
  • Lleoliad: Monmouth, Monmouthshire, NP25 3XR
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 12 Ebrill, 2024 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Addysgu x2 - Ysgol Gynradd Thornwell

Cyngor Sir Fynwy
Mae Ysgol Gynradd Thornwell yn dymuno penodi Cynorthwyydd Addysgu – Lefel 2 i ymuno â’n staff diwyd a brwdfrydig. Mae’r Llywodraethwyr yn edrych am weithiwr proffesiynol cadarnhaol a a all weithio mewn tîm yn ogystal â defnyddio ei gymhelliant/chymhelliant ei hun. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â dealltwriaeth gadarn o lesiant ac ymarfer ystyriol o drawma. Swydd i ddechrau cyn gynted ag sydd modd.

Ein Diben:-
Mae Ysgol Gynradd Thornwell yn dymuno penodi Cynorthwyydd Addysgu – Lefel 2 i ymuno â’n staff diwyd a brwdfrydig. Mae’r Llywodraethwyr yn edrych am weithiwr proffesiynol cadarnhaol a a all weithio mewn tîm yn ogystal â defnyddio ei gymhelliant/chymhelliant ei hun. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â dealltwriaeth gadarn o lesiant ac ymarfer ystyriol o drawma. Swydd i ddechrau cyn gynted ag sydd modd.

Diben y Swydd:-
• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad staff addysgu a/neu aelodau o dîm arweinyddiaeth yr ysgol.
• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
• Cynorthwyo’r athro/athrawes i reoli disgyblion o fewn yr ystafell ddosbarth, ardal tu fas a thu hwnt.
• Cyfrannu at gylch cynllunio yr athro/athrawes i sicrhau fod pob disgybl yn cael mynediad cyfartal i ddysgu.
• Cefnogaeth un i un i ddisgyblion gydag anghenion penodol a chymhleth yn ôl cyfarwyddyd tîm arweinyddiaeth yr ysgol neu gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol os oes angen.

Eich cyfrifoldebau yw:-
• Goruchwylio a darparu cymorth wedi ei dargedu ar gyfer disgyblion, gan gynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael mynediad at weithgareddau dysgu.
• Cynorthwyo gyda’r broses o addysgu a datblygu'r holl ddisgyblion, gan gynnwys gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol a rhaglenni Gofal Personol - gan gynnwys mynd i’r toiled, bwydo a symudedd.
• Hyrwyddo awyrgylch sydd yn cynnwys ac yn derbyn pob un disgybl.
• Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac ymgysylltu yn y gweithgareddau sydd yn cael eu harwain gan yr athro/athrawes / plentyn / plant
• Gosod disgwyliadau heriol a hyrwyddo hunanwerth ac annibyniaeth.
• Darparu adborth effeithiol i’r holl ddisgyblion o ran cynnydd a chyrhaeddiad, a hynny o dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Gweithredu strategaethau er mwyn annog annibyniaeth a hunanhyder.
• Darparu adborth effeithlon i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni, cydnabod a gwobrwyo’r hyn sydd yn cael ei gyflawni.
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau yr ysgol a’r awdurdod lleol ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant yn yr holl waith gyda phlant a theuluoedd.
• Cefnogi dysgwyr i ddatblygu meddylfryd twf.
• Cefnogi ystafelloedd dosbarth mewn ymarfer ystyriol o drawma, llesiant, yn cynnwys tegwch yn hytrach na chydraddoldeb.
• Cefnogi disgyblion i fynd i’r Fferm Fach (fferm gymunedol)
• Cefnogi uchelgais yr ysgol i fod yn ddwyieithog drwy ddefnydd beunyddiol o’r Gymraeg a dymuniad i wella sgiliau yn y Gymraeg yn barhaus.

Cymorth i’r Athro/Athrawes
• Darparu adborth manwl a chyson i athrawon ar gyraeddiadau, cynnydd tuag at dargedau a phroblemau’r disgyblion ac yn y blaen.
• Cysylltu gyda’r athro/athrawes er mwyn creu awyrgylch ddysgu bwrpasol, drefnus a chefnogol
• Cysylltu gyda’r athro/athrawes er mwyn rhannu cynlluniau tymor byr ac amcanion dysgu penodol ar gyfer: grwpiau, unigolion, y dosbarth cyfan.
• Arsylwi ymatebion disgyblion i weithgareddau dysgu a chynnal cofnodion am y disgyblion fel sydd angen.
• Sefydlu arferion er mwyn sicrhau bod adborth cyson ac effeithiol yn cael ei rannu gyda'r athro/athrawes o ran y cynnydd a wneir gan y disgyblion yn erbyn y targedau dysgu.
• Gweithredu polisi’r ysgol o ran hyrwyddo ymddygiad positif ymhlith disgyblion ac agweddau at ddysgu.
• Gweinyddu profion arferol a goruchwylio arholiadau.
• Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol fel sydd angen e.e. llungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyron i rieni.

Cynorthwyo’r Cwricwlwm
• Cynnal gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytunedig.
• Cynnal rhaglenni sydd yn gysylltiedig â strategaethau lleol a chenedlaethol e.e. llythrennedd, rhifedd, y Cyfnod Sylfaen, asesu ar gyfer dysgu
• Cefnogi’r defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion wrth iddynt ei ddefnyddio.
• Paratoi, cynnal a defnyddio cyfarpar/adnoddau sydd eu hangen er mwyn diwallu anghenion cynlluniau gwersi/gweithgareddau dysgu perthnasol a chynorthwyo disgyblion i’w defnyddio.
• Paratoi, cynnal a defnyddio cyfarpar ac adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r rhaglenni addysgu a gweithgareddau dysgu a gytunwyd, yn cynnwys darpariaeth barhaus ac estynedig.
• Cysylltu yn sensitif ac yn effeithiol gyda rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda’r athro/athrawes.
• Cymryd rhan mewn cyfarfodydd gyda rhieni a chyfrannu at adolygiadau blynyddol yn unol ag arferion yr ysgol.

Cynorthwyo’r Ysgol
• Gwybod am a chydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau o ran cynhwysiant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data a rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw bryderon.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol gan gynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
• Gwerthfawrogi a chefnogi rôl y gweithwyr proffesiynol eraill.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd fel sydd angen.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac adolygiadau proffesiynol fel sydd angen.
• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i wersi, gan gynnwys cyn neu ar ôl ysgol ac yn ystod yr egwyl ginio.
• Mynd gyda’r staff addysgu a’r disgyblion ar ymweliadau, tripiau a gweithgareddau y tu hwnt i’r ysgol fel sydd angen a chymryd cyfrifoldeb am y grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.