MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth Cynorthwyol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad gwaith: Canolfan Addysg Conwy

Rydym yn awyddus i benodi arweinydd ysbrydoledig a brwdfrydig. Mae'r gwasanaeth cynhwysiad wedi ymrwymo i ddarparu addysg a chymorth o ansawdd rhagorol i ddisgyblion ag ystod o anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, y rhai â salwch na allant fynychu'r ysgol neu na fyddent fel arall yn cael addysg addas.

Mae arnom angen unigolyn uchel ei gymhelliant, sy'n gallu dangos ymrwymiad cryf i nodau, gwerthoedd ac ethos cynhwysiant, gyda phrofiad o gyflawni canlyniadau rhagorol i ddisgyblion ag anghenion unigol sylweddol.

Mae gweithio ar y cyd yn rhan hanfodol o'r rôl hon a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu perthynas waith fewnol effeithiol gyda disgyblion a staff, yn ogystal â phartneriaethau allanol gyda rhieni, ysgolion, colegau ac ystod eang o weithwyr proffesiynol.

Bydd y Pennaeth Cynorthwyol yn:

• Rheoli ac arwain uned / safle. Mae hyn yn cynnwys rheoli staff, dysgwyr a chyswllt â lleoliadau prif-lif.
• Arwain ar draws y tri safle ar feysydd arweinyddol ysgol.
• Hyrwyddo cynhwysiant pob disgybl a'u teuluoedd o fewn yr ysgol a'r gymuned ehangach.
• Sicrhau cynnydd a mynediad ystyrlon i ddysgu ar draws Canolfan Addysg Conwy
• Rheolwr llinell y Cydlynydd Allgymorth.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun Datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru â'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn dechrau'r swydd.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Gwyn Owen, Pennaeth, 01492 514925 Owena424@hwbcymru.net

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.