MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Canol Dydd (Ysgol Abermiwl)

Cyngor Sir Powys
Goruchwyliwr Canol Dydd (Ysgol Abermiwl)
Swydd-ddisgrifiad
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn i gyflawni swydd Goruchwyliwr Canol Dydd yn ein hysgol bentref, gyfeillgar. Fel ysgol bentref, ymfalchïwn yn y cysylltiadau cadarnhaol sydd gennym gyda'n teuluoedd a'r gymuned leol. Ai unigolyn sy'n gallu gweithio fel aelod o dîm effeithiol ydych chi? Fedrwch chi fel unigolyn wneud gwahaniaeth? Byddem yn croesawu ymweliadau â'r ysgol; croeso ichi gysylltu â Mrs Sophie Palmer ar office@abermule.powys.sch.uk i drefnu amser cyfleus.

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £12.00 yr awr.