MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gofalwr Ysgol Eifion Wyn

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Yn eisiau mor fuan a phosib - Wanted as soon as possible

Gofalwr Ysgol Eifion Wyn

Caretaker Eifion Wyn School

I weithio fel rhan bwysig o'r tîm glanhau. Dyletswyddau i gadw ardal benodedig yn lan, ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.

10 awr yr wythnos yn ystod tymor yr Ysgol.

To work as an important member of the cleaning team. Duties to include keeping designated areas clean and hygienic.

10 hours a week during the school term

GS1 pwynt 2 - £11.59 yr awr / per hour (£8.92 wedi ei gyfartalu- averaged)

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus a byddwch yn derbyn e-bost gan 'noreply@employmentcheck.org.uk' i cwblhau ffurflen DBS ar lein. / The Council will request a Criminal Records Bureau disclosure for the successful applicant and you will receive an email from 'noreply@employmentcheck.org.uk' to complete a DBS form online.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person / The applicant will be expected to reach the linguistic level noted as one of the essential skills in the Person Specification.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu Saesneg a bydd ceisiadau yn cael ei drin yn gwbl gyfartal / We welcome applications in Welsh and English and applications will be treated completely equally.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this comitment

Dyddiad Cau / Closing Date: 08/04/2024

Ffurflenni cais oddi wrth ac i'w dychwelyd i / Application forms from and to be returned to: Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Caernarfon. Rhif Ffôn / Telephone number 01286 679076

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person

-

Swydd Ddisgrifiad

Dyletswyddau:

Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir
gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd. Dylai pob aelod o staff, heb eithriad, weithredu yn ôl polisïau'r
ysgol.

Pwrpas y Swydd:
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Goruchwylio adeiladau'r Ysgol i sicrhau fod yr adeilad yn ddiogel.
• Bydd y Gofalwr yn gyfrifol am sicrhau rhediad effeithiol yr ysgol gan sicrhau bod ystafelloedd a
gwasanaethau ar gael ac mewn trefn ar gyfer athrawon a phawb arall sydd â hawl i'w ddefnyddio.
• Ymgymryd yn arferol fel rhan o dîm gwaith glanhau rhannau penodedig ar safle'r ysgol i sicrhau eu
bod yn cael eu cadw'n lân ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.
• Monitro diogelwch a chyflwr yr adeiladau
• Rheoli gofynion Iechyd a Diogelwch
• Rheoli a gofal dros gontractwyr allanol sydd yn gweithio
• Cynnal a chadw
• Delio ag argyfyngau cyffredinol
• Bysiau mini yr ysgol
• Dal goriadau yr Ysgol

Tasgau Dyddiol:

• Datgloi'r holl gatiau a diffodd y system larwm. Datgloi pob drws mynediad a phob drws ystafell
ddosbarth cyn agor y sefydliad yn y bore yn unol â chyfarwyddiadau'r Pennaeth.
• Yn ystod cyfnodau gwresogi fel yr enwir gan y Pennaeth, sicrhau bod y system wresogi'n
gweithio ar y lefel iawn er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y tymheredd angenrheidiol erbyn amser
agor y sefydliad.
• Lle bydd peirianwaith amseru awtomatig yn rheoli'r system wresogi, sicrhau bod y system yn
gweithio fel sydd angen cyn agor y sefydliad.
• Adrodd wrth y Pennaeth/Rheolwr Busnes a Chyllid am unrhyw ddiffygion a welwyd mewn
gwresogyddion unigol neu yn y system wresogi gyffredinol.
• Glanhau a chlirio'r holl sbwriel sy'n gwneud i'r lle edrych yn flêr neu a allai fod yn beryglus, e.e.
tuniau gwag, gwydr wedi malu neu boteli, o bob portsh a phob man caled o amgylch yr adeilad,
cyn i'r gweithwyr gyrraedd yr adeilad.
• Gwagio'r biniau sbwriel sydd tu allan gan roi'r sbwriel mewn bagiau plastig a chael gwared
ohono fel gyda sbwriel geir tu allan i'r adeilad. Gosod bagiau plastig newydd ym mhob bin, os
darperir hwy. Gwagio bocsys glas ail gylchu i'r biniau ail gylchu sydd wedi eu darparu.
• Hysbysu'r Rheolwr Busnes a Chyllid o'r angen i archebu tyweli papur, rholiau papur toiled a
sebon hylif i olchi dwylo trwy'r sefydliad fel bo'r angen, gofalu am ddosbarthu'r uchod.
• Rhoi gwybod i'r Rheolwr Busnes a Chyllid/Pennaeth am unrhyw ddifrod i eiddo'r ysgol e.e.
diffygion mewn ffitiadau neu draeniau drewllyd a.y.b. na all y gofalwr delio a hwy.
• Ar adeg cau'r sefydliad, sicrhau bod yr holl oleuadau wedi eu diffodd ar gwresogyddion /
systemau gwres canolog wedi ei gosod yn barod i weithio os bydd eu hangen, fel sy'n briodol ar
gyfer yr amodau tywydd.
• Sicrhau nad oes defnyddiau hylosg yn rhy agos at wresogyddion a.y.b.
• Paratoi'r Neuadd ar gyfer Gwasanaeth Boreol, Cyngherddau, Drama neu unrhyw weithgaredd
arall.
• Rhwystro tresmasu ar dir ac adeiladau'r ysgol.
• Agor a chloi ar gyfer gweithgareddau gyda'r nos ar ddealltwriaeth o'r ddwy ochr, gan gau a
chloi'r prif giatiau fel sy'n briodol ar ddiwedd y dydd.

Tasgau Wythnosol/Misol:
• Cadw trapiau draeniau a chwteri mewn cyflwr glân a glanhau trapiau saim bob wythnos.
• Monitro'r defnydd o drydan, nwy a dŵr yn unol â'r drefn a fabwysiedir gan y Cyngor. Mae'r
drefn bresennol yn golygu cofnodi darlleniad pob mesurydd perthnasol bob mis a chyfrifo faint
a ddefnyddir bob mis ar gardiau cofnodi arbennig.
• Cadw adeiladau bwyleri mewn cyflwr glân a thaclus a sicrhau nad oes defnyddiau hylosg
ynddynt.
• Cadw pob man chwarae gydag wyneb caled, mannau parcio, llwybrau a lonydd, storfeydd nwy
petrolewm ayb yn rhydd o chwyn cerrig rhydd a glanhau'r holl sbwriel e.e. gwydr, tuniau a
photeli, papur neu sbwriel arall, dail, toriadau glaswellt a.y.b. a'u cadw mewn cyflwr taclus.
• Clirio eira fel sy'n briodol a thaenu halen craig er mwyn cadw mannau mynediad yn ddiogel yn
ystod eira neu rew. Darperir halen craig gan yr Ysgol.
• Arolygu cyflwr y dodrefn a'r adeilad a rhoi adroddiad i'r Rheolwr Busnes a Chyllid/Pennaeth.
• Ail osod teilsiau nenfwd a man atgyweirio plastr.
• Paratoi a phaentio plastr mewnol gwaith coed a dodrefn.
• Atgyweirio gorchuddion lloriau a grisiau gan gynnwys sgerting, blaen grisiau, carped, leino a
thermoplastig.
• Gosod ac atgyweirio mân offer, dodrefn a bordio ffenestri a dorrwyd, pob safle.
• Gosod bylbiau golau ffitiadau fflwroleuol newydd pob safle.
• Ail osod wasieri, plygiau a mân waith plymio, pob safle.
• Cyd-weithio â gwaith wythnosol o brofi offer tân, tapiau, cawodydd a "sprinklers" dŵr os yn
berthnasol.
• Gofalu fod yr offer atal tân yn y mannau priodol a hysbysu'r Rheolwr Busnes a Chyllid os oes
rhai yn wag.
• Ateb galwadau larwm diogelwch yr Ysgol.
• Rhoi gwybod i'r Rheolwr Busnes a Chyllid/Pennaeth neu'r Adran Eiddo pan fydd peipiau wedi
rhewi a throi'r dŵr i ffwrdd.
• Glanhau ffaniau extractors.
• Glanhau y tu allan i ffenestri.
• Cynnal gwaith coed allanol a gerddi - arwyddion a giatiau pob safle os oes angen.
• Cynnal ac atgyweirio mân ddifrod i ffensys.
• Symud dodrefn o ystafell i ystafell.
• Gosod clociau'r Ysgol.
• Cyfeirio gwaith y contractwyr.
• Cadw golwg ar waith contractwyr yn yr Ysgol gan roi gwybod i'r Rheolwr Busnes a
Chyllid/Pennaeth os oes diffygion yn codi.
• Cadw rhestr stoc o beiriannau/ ofer cynnal a chadw.
• Dilyn y drefn gydnabyddedig mewn perthynas â llifogydd, torri i mewn, damweiniau neu
ddifrod.
• Mae disgwyl i'r Gofalwr wybod am leoliad offer a defnydd cymorth cyntaf, tapiau a falfiau drwm
nwy a thrydan pwysig.

Bysiau Mini yr Ysgol
• Cludo disgyblion yr ysgol i wersi allanol oddi ar safle'r ysgol.
• Monitro cyflwr y bysiau mini a threfnu gwaith cynnal yn ôl y gofyn.
• Sicrhau bod disel yn y bysiau mini.
• Sicrhau bod tystysgrifau treth a MOT cyfredol gan yr ysgol.
• Glanhau'r fan/bws mini.
• Mynd ar gwrs PSV i gael trwydded yrru ar gyfer y bws i gludo plant, os oes angen.

Cyffredinol
• Cadw golwg ar ymddygiad plant a rhoi gwybod i'r Pennaeth/Dirprwy Bennaeth os oes unrhyw
broblem.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Cydymffurfio â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol ac asesiadau risg yn ôl y gofyn.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i
weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi