MANYLION
  • Lleoliad: Wyesham, Monmouthshire, NP25 3ND
  • Testun: Glanhawr
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 11 Ebrill, 2024 5:00 y.p

This job application date has now expired.

Gweithiwr Glanhau a Hylendid, Ysgol Gynradd a Meithrinfa Kymin View, Trefynwy

Cyngor Sir Fynwy
PWRPAS Y SWYDD:
Dymunwn lenwi'r swydd lanhau wag ddilynol yn Ysgol Gynradd a Meithrinfa Kymin View.

Bydd y dyletswyddau yn cynnwys sicrhau y caiff yr adeilad ei gadw i lefel uchel o hylendid a glanweithdra.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud tasgau glanhau megis golchi lloriau a waliau, ysgubo, defnyddio peiriant sugno llwch, tynnu llwch a gwagu biniau sbwriel.

Ein Diben:-

Darparu amgylchedd diogel, glân ac iachus fel bod ein plant a staff yn medru dysgu ynddo.

Diben y Swydd hon:-

Sicrhau bod yr adeilad yn cael ei gynnal i safon uchel o hylendid a glendid.






Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Rôl hon:-

Ymfalchïo yn awyrgylch yr ysgol, yn meddu ar ddisgwyliadau uchel o hylendid, yn arddangos hyblygrwydd ac yn gweithio yn effeithiol fel rhan o dîm.


Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:

• Cwblhau tasgau glanhau golchi waliau a lloriau, ysgubo, gwagu biniau sbwriel, polisio a thynnu llwch.
• Glanhau ardaloedd glanweithiol.
• Gweithredu peiriannau sugno llwch.
• Sicrhau cynnal stoc ddigonol o ddeunyddiau glanhau.
• Hysbysu'r goruchwyliwr am bob nam yn yr offer glanhau.
• Sicrhau y caiff cemegau eu defnyddio'n gywir bob adeg.
• Cwblhau unrhyw hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer y swydd.
• Arsylwi rheoliadau Iechyd a Diogelwch fel y nodir gan yr awdurdod i sicrhau eu diogelwch eu hunain ac eraill.
• Cydymffurfio gydag egwyddorion ac arfer cyfle cyfartal fel y nodir ym Mholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor.

Dyma’r hyn yr ydym yn medru darparu i chi:-

• Byddwch yn derbyn cyfleoedd hyfforddi mewnol o ansawdd.
• Cefnogaeth barhaus a chyfleoedd hyfforddi.
• Yn gweithio fel rhan o dîm cryf o staff glanhau a’r gymuned ysgol gyfan o staff.