MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cwnselydd Ysgol

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

LLEOLIAD: YSGOLION GWYNEDD A MÔN

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Dora Wendi Jones ar 07815597244.

Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 11/04/2024 am 12:00 yh

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Sgiliau cyfathrebu a gwrando rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg

Y gallu i barchu ac ymdrin â chleiantau yn gwbl gyfrinachol

Gwybodaeth am brosesau diogelwch o ran plant a phobl ifanc

Gwybodaeth am y materion sy'n effeithio ac yn tarfu ar fywydau pobl ifanc

Gwybodaeth o ran sut mae systemau diogelu yn gweithio o fewn ysgolion

Y gallu i sicrhau cymhelliant personol ac i weithio'n annibynnol

Gallu cysylltu â chyd weithio efo asiantaethau eraill ac unigolion i newid pethau er gwell mewn ymateb i faterion perthnasol i'r client

Brwdfrydedd dros weithio efo plant a phobl ifanc

Amynedd, goddefgarwch a sensitifrwydd

Y gallu i weithio o dan bwysau ac i ymateb yn sydyn ac yn ddigonol i ddigwyddiadau annisgwyl.
Dymunol
Y gallu i ddayblygu sgiliau Newydd a defnyddio meddalwedd anghyfarwydd
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster mewn Cwnsela ar lefel Diploma Ôl radd neu lefel gyfatebol sy'n cael ei hadnabod gan y BACP (British Association for counselling and Psychotherapy)

Yn dal, neu yn gweithio tuag ar Achrediad BACP

Cymhwyster academic neu alwedigaethol uwch mewn maes astudiaeth perthnasol

Aelod cofrestredig o BACP
Dymunol
Unrhyw hyfforddiant penodol sydd ei angen ar gyfer y swydd gan gynnwys achrediad.

Hyfforddiant a/neu gymhwyster mewn therapi celf/chwarae/drama
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o weithio fel cwnselydd

Profiad o weithio efo plant a phobl ifanc

Profion o gadw nodiadau safonedig

Profiad o gyd-weithio efo eraill

Sgiliau TG da a phrofiad o ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol a bas data

Ymwybyddiaeth o egwyddorion Gwarchod Data/GDPR
Dymunol
Profiad o weithio mewn ysgolion

Profiad o gynnig cwnsela yn rhithiol - drwy fidio, ffon, ebost.

Profiad o gynnig therapi creadigol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Hyfforddiant cwnsela/seicotherapi hyd at lefel diploma Ôl radd
Dymunol
-
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Darparu Gwasanaeth Cwnsela i blant a phobl ifanc o fewn ysgolion uwchradd, chynradd a'r gymuned yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Gliniadur a ffon symudol
Prif ddyletswyddau
• Gwasanaethu fel aelod o dîm i ddarparu gwasanaeth cwnsela effeithlon, proffesiynol a statudol ar gyfer plant a phobl ifanc pan a fel bo angen.

• Darparu gwasanaeth cwnsela wyneb yn wyneb a/neu rithiol ar gyfer yr unigolion hynny yr ystyrir fyddai'n elwa o gwnsela:

• Darparu a trefnu asesiad un i un yn unol â rheoliadau BACP, (British Association for Counselling and Psychotherapy)

• Cydymffurfio a chynnal nifer cyfyngedig o sesiynau yn unol canllawiau'r gwasanaeth â rheoliadau BACP .

• Sicrhau y caiff pob cleient ei asesu a bod naill ai'r gwasanaeth yn delio a'r achos neu y caiff y cleient ei gyfeirio at wasanaeth priodol.

• Gweithredu mewn modd sy'n cydymffurfio â safonau cydnabyddedig darparwyr cwnsela:

• Cydymffurfio â Chod Ymarfer a Fframwaith Moesegol y BACP.

• Dilyn argymhellion Pecyn Cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar arfer dda.

• Hoelio sylw ar drefniadau gwarchod ac amddiffyn plant a phobl ifanc .

• Cynnal cydbwysedd yn annibynnol rhwng Gwarchod a Moeseg - er budd y cleient.

• Cadw cofnodion safonol ar bob achos:

• Casglu nodiadau sylfaenol ar bob achos unigol .

• Darparu data ac adborth a'i mewnbynnu ar system rheoli gwybodaeth y gwasanaeth.

• Sicrhau cadw yr holl nodiadau yn unol â deddfwriaeth Gwarchod Data .

• Dilyn gweithdrefn ble ceir barn y defnyddiwr ynglŷn â'r gwasanaeth.

• Cynnal cysylltiadau cadarn a system cytunedig o gydweithrediad effeithlon gydag asiantaethau perthnasol o fewn ffiniau cyfrinachedd .

• Ymgynghori a chydweithwyr allweddol eraill ym maes lles a iechyd meddwl plant a phobl ifanc a dilyn system gyfeirio gytunedig tuag at, ac ymlaen, o'r gwasanaeth.

• Darparu gwybodaeth am y gwasanaeth cwnsela. Codi ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc, eu rhieni a phobl broffesiynol eraill ynghylch presenoldeb y gwasanaeth cwnsela a sut mae'n gweithredu. Gwneud staff yr ysgol yn ymwybodol o gwnsela, eu cynghori ynghylch y wefan gwasanaeth cwnsela o fewn yr ystod o wasanaethau cefnogol sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc.

• Cyflawni unrhyw dasgau sy'n gysylltiedig a darparu cwnsela mewn ysgolion, sy'n rhesymol i'w ddisgwyl o ystyried cyflog y swydd, ar gais rheolwr llinell.

• Gwarchod cleientiaid ac eraill sydd mewn perygl o gryn niwed:-

• Mae cleientiaid yn ddibynnol ar y Gwasanaeth Cwnsela i ddarparu lefel uchel o gyfrinachedd. Mae'n hanfodol i'r Cwnselydd ddarparu'r amgylchedd diogel hwn tra'n cadw cydbwysedd rhwng eu Fframwaith Moesegol ac Amddiffyn Plant. Mae angen monitro anghenion y cleientiaid yn gyson trwy gydol y broses Therapiwtig.

• Cyd gordio'r gwasanaeth ar lefel ysgol drwy:

• Drefnu a gweinyddu'r gwasanaeth ar y cyd â staff yr ysgol;

• Cyfathrebu a chysylltu â staff yr ysgol, er budd yr unigolyn ifanc, gan gadw oddi mewn i derfynau

cyfrinachedd y cleient;

• Gweithredu fel adnodd i staff ysgolion drwy roi cipolwg ar fyd cwnsela a hyrwyddo'r gwasanaeth lle bo modd;

• Cynnal a datblygu ymarfer proffesiynol drwy reolaeth gyson a pharhaus, goruchwyliaeth glinigol a hyfforddiant, a thrwy gymryd rhan mewn gwerthusiadau ac archwiliadau o'r gwasanaeth;

• Asesu a rheoli'r risgiau i unigolion, ac i chi'ch hun.

• Monitro, ail-asesu a rheoli'r risgiau i unigolion yn rheolaidd

• Cymryd camau ar unwaith ac sy'n gymesur i ddelio â/mynd i'r afael ag unrhyw ymddygiad sy'n peri risg.

• Cydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion gwarchod y Bwrdd lleol Amddiffyn Plant a rhai'r adran.

• Cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, safonau cenedlaethol a polisïau adrannol perthnasol.

• Cadw cofnodion achos cywir ac wedi ei diweddaru a sicrhau bod ffeiliau'n cydymffurfio â gofynion polisi'r adran ar ddiogelu data, cadw cofnodion a chyfrinachedd.

• Cyfrannu'n rhagweithiol mewn adolygiadau arfarnu perfformiad a goruchwyliaeth unigol.

• Gwneud cyfraniad positif tuag at y tîm, trwy gydweithio â chydweithwyr a'r rheolwr llinell.

• Mynychu cyfarfod tîm a cymryd rhan mewn unrhyw weithgorau perthnasol a cyfarfodydd adrannol a rhyng-asianaethol eraill fel bo angen.

Cyffredinol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Ar adegau, mae yn bosib y bydd disgwyliad i weithio fin nos a/neu penwythnosau.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi