MANYLION
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Deganwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
YSGOL DEGANWY

Park Drive, Deganwy, Conwy

Ffôn: 01492 574600

Nifer y disgyblion: 337 (gyda 38 meithrin)

Mae'r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion 3 - 11 oed.

Yn eisiau erbyn Medi 1af 2024

PENNAETH

Cyflog: L11-L17 (£61,574 - £71,195) y flwyddyn

Mae Llywodraethwyr Ysgol Deganwy yn awyddus i benodi unigolyn ysbrydoledig ac ymroddedig i'r swydd hon.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • nodweddion rheoli ac arweinyddiaeth rhagorol
  • ymroddiad i'r safonau uchaf o addysgu a dysgu, a chynnal y disgwyliadau gorau o ran ymdrech ac ymddygiad
  • ymroddiad at lefelau uchel o reolaeth gweinyddol, ariannol ac adnoddau
  • y gallu i gydweithio â staff yr ysgol, llywodraethwyr, rhieni ac asiantaethau eraill sy'n ymwneud â'r ysgol
  • y gallu i hyrwyddo yr iaith Gymraeg a'i diwylliant.

Mae'r gallu i arwain a rheoli yn rhugl trwy'r Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â Mr Karl Jones , Cadeirydd y Llywodraethwyr Jonesk1830@hwbcymru.net 07712660930 / 01492 583288

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan

y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau cyflogaeth.

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Dyddiad cau: Hanner nos, Dydd Iau, Ebrill 11eg

Proses penodi: Yr wythnos yn cychwyn Ebrill 15eg.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English.