MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £0.00 - £10,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Goruchwylio Amser Cinio

Cynorthwy-ydd Goruchwylio Amser Cinio

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Owrtyn

Lôn yr Ysgol

Owrtyn

Wrecsam

LL13 0ES

Rhif ffôn: 01978 710370

Pennaeth Dros Dro: Mr D. Morris

CYMHORTHYDD GORUCHWYLIO CANOL DYDD

G02 £2,527 y flwyddyn

£11.59 yr awr, 5 awr yr wythnos

I weithio ddydd Llun a dydd Gwener - oriau: 12pm-1pm

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair eisiau penodi un Cymhorthydd Goruchwylio Canol Dydd i oruchwylio disgyblion yn y neuadd fwyta, mannau chwarae ac adeiladau'r ysgol yn ogystal ag unrhyw ddyletswyddau eraill priodol, wedi eu cynnwys yn y swydd ddisgrifiad.

Am fwy o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Mr Morris ar y rhif uchod neu e-bost: headteacher@stmarys-overton-pri.wrexham.sch.uk

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost: headteacher@stmarys-overton-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 26 Ebrill 2024.