MANYLION
  • Lleoliad: Various,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD

Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted a phosib.

Cymhorthydd Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio Lefel 3

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos
(39 wythnos y flwyddyn, tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy'n frwdfrydig i weithio gyda disgyblion ag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio mewn ysgolion a chanolfannau arbenigol. Byddai profiad o gefnogi disgyblion ag Anhwylder Iaith a /neu gymwysterau megis ELKLAN yn fanteisiol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig i'r ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae lleoliadu'r swydd yn amrywio oddi fewn Dwyfor a bydd gofyn i'r ymgeisydd deithio i ardaloedd eraill yn achlysurol. ac Cyngor Gwynedd fydd y cyflogydd ar gyfer y Gwasanaeth.
.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £16,958 i £18,134) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu â Delyth Gibbard, Uwch Athrawes Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio ar rif ffon 01286 679007.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.

Bydd y cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth diogelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn.

DYDDIAD CAU: 10:00y.b , Dydd Iau, 22ain o Chwefror, 2024.

(This is an advertisement for Communication and Interaction Specialist Teaching Assistant, for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL

• Y gallu i gydweithio ag ystod eang o bobl. Gallu i ddelio â phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
• Trefnu amser yn effeithiol
• Sgiliau cyfathrebu clir
• Gallu cydweithio fel aelod o dîm
• Gallu i weithio'n hyblyg
• Brwdfrydedd
• Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth
• Y gallu i gyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Sgiliau rhif/llythrennedd da
• NVQ Lefel 3 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu
• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol a/neu chynhwysiad
• Cyfathrebu a Rhyngweithio: Profiad o weithio yn y maes a defnyddio strategaethau e.e. Elklan

DYMUNOL

Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol a/neu chynhwysiad
Cyfathrebu a Rhyngweithio: Cymhwyster Elklan Lefel 2 neu uwch

• Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo'n briodol

PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL

• Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

DYMUNOL

Profiad o:
• Ddefnyddio dulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
• Gyfrannu a gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL

• Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
• Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer
• Dealltwriaeth o anghenion amrywiol
• Sgiliau cyfathrebu da a chadarn gyda'r gallu i gyfathrebu yn effeithiol gyda phobl a pharchu'r angen i fod yn gyfrinachol.
• Sgiliau cyfrifiadur da - defnydd effeithlon o TGaCh i gefnogi dysgu.
• Y gallu i gyflwyno syniadau a strategaethau i gyd-weithwyr yn hyderus

DYMUNOL

• Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
• Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
• Dealltwriaeth gyffredinol o gyfnod cenedlaethol/sylfaenol, cwricwlwm, a rhaglen/strategaethau dysgu sylfaenol eraill fel y bo'n briodol.
• Dealltwriaeth sylfaenol o ddatblygiad a dysg y plentyn

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.

Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.

Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa.

Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.
Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

Cefnogi disgyblion ystod oedran 3 - 16 oed ag anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio yn ysgolion a chanolfannau arbenigol Gwynedd a Môn fel rhan o dîm integredig ADY a Chynwysiad.

Gweithredu'r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.

Sefydlu perthynas weithiol, effeithiol gyda'r disgyblion gan weithredu fel unigolyn proffesiynol.

I weithio o dan reolaeth a goruchwyliaeth Uwch/Athro/awes Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio. Bydd yr holl ddyletswyddau a amlinellir o fewn y swydd ddisgrifiad yn cael eu gweithredu o dan reolaeth a goruchwyliaeth athro/awes.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Ffôn symudol.
• Gliniadur
• Creu adnoddau, fel rhan o dîm, i ategu at fanc adnoddau i ysgolion
• Offer TGCh i gefnogi dysgu'r disgyblion

Prif Ddyletswyddau. .
Cefnogaeth i Ddisgyblion

• Darparu mewnbwn ymestyn allan i unigolion a grwpiau o blant yn eu hysgolion prif lif o dan Arweiniad yr Athrawon Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio, Uwch Seicolegydd Addysgol a Therapydd Iaith a Lleferydd, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh.

• Darparu mewnbwn i grŵp o blant o fewn Canolfannau'r Tîm Cyfathrebu a Rhyngweithio (h.y. Canolfannau Anhwylder Iaith a Chanolfannau Cyfathrebu Cymdeithasol) am gyfnod penodol o dan Arweiniad yr yr Athrawon Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio, Uwch Seicolegydd Addysgol a Therapydd Iaith a Lleferydd, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh.

• Cymryd cyfrifoldeb am y grŵp o blant o fewn y Ganolfan Arbenigol am gyfnodau byr pan fo'r Athrawes Arbenigol yn absennol ac yn darparu gwasanaeth yn y prif lif neu mewn Fforwm Ardal.

• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu Cynllun Datblygu Unigol / Cynllun Cyfathrebu Unigol y disgyblion

• Cyd-weithio gydag Athrawon Arbenigol yn y maes Cyfathrebu a Rhyngweithio ac asiantaethau eraill perthnasol.

• Cydweithio gyda Cymorthyddion o fewn yr ysgolion prif lif i fodelu pecynnau ymyrraeth effeithiol gyda'r disgyblion sydd yn cael sylw gan y Tîm Cyfathrebu a Rhyngweithio.

• Cefnogi'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anghenion arbennig ac yn arbennig anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio.

• Defnyddio TGChyn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.

• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda'r disgyblion a chydweithwyr.

• Darparu gwybodaeth ar gyfer asesiad cyfansawdd o anghenion a chynnydd y disgyblion.

• Creu a darparu pecynnau gwaith arbenigol i ddisgyblion yn unol â'u Cynllun Datblygu Unigol/ Cynllun Cyfathrebu Unigol/Cynllun Meddygol os yn berthnasol.

• Rhannu arferion da gyda staff o fewn yr ysgol a modelu technegau yn ôl yr angen.

Cefnogaeth i Athrawon

• Ymweld ag ysgolion i gefnogi disgyblion ag anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio.

• Cefnogi mynediad disgyblion i ddysgu drwy ddefnyddio strategaethau sydd wedi eu profi i fod yn effeithiol o dan arweiniad yr Athrawon Arbenigol.

• Gweithio gyda staff eraill megis athrawon arbenigol, seicolegwyr addysgol a therapyddion i gynllunio, arfarnu ac addasu deunyddiau a gweithgareddau dysgu fel y bo'n briodol.

• Monitro a gwerthuso ymateb a chynnydd disgyblion yn erbyn cynlluniau gweithredu drwy arsylwi a chofnodi.

• Darparu adborth ac adroddiadau gwrthrychol a chywir i staff eraill ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.

• Bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion fel y cytunwyd â staff eraill, cyfrannu at arolygu systemau/cofnodion fel bo'r gofyn.

• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu strategaethau yn y maes hwn.

• Cyfrannu at Hyfforddiant Mewn Swydd i athrawon/cymorthyddion o dan arweiniad yr Uwch Seicolegydd Addysg a'r Athrawon Arbenigol o fewn y TîmCyfathrebu a Rhyngweithio.

• Sefydlu perthynas adeiladol gyda rhieni/gofalwyr, gan gyfnewid gwybodaeth, hwyluso eu cefnogaeth i bresenoldeb, mynediad a dysgu eu plentyn a chefnogi cysylltiadau cartref ysgol a chymunedol.

• Cefnogaeth glerigol/weinyddol, e.e. ymdrin â gohebiaeth, casglu/dadansoddi/adrodd gwybodaeth berthnasol, gwneud galwadau ffôn, ayyb.

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm

• Cynllunio a Gweithredu gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu cytøn, gan addasu gweithgareddau yn ôl ymateb/anghenion y disgyblion.

• Bod yn ymwybodol a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolion, ar gyfer darparu cefnogaeth i'r disgyblion i ehangu a chyfoethogi eu dysgu.

• Penderfynu'r angen am offer, cynlluniau ac adnoddau arbenigol i gefnogi disgyblion, eu paratoi a'u defnyddio.

Cyffredinol:

• Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau ADY a diogelu plant.

• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol ein tîm integredig ADY a Chynwysiad.

• Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau eraill er mwyn cefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.

• Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chymryd rhan ynddynt.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.

• Adnabod hunan gryfderau ac ardaloedd arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.

Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi