MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth Saesneg, Ysgol Botwnnog, Pwllheli

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

PENNAETH SAESNEG - YSGOL BOTWNNOG, PWLLHELI

Yn eisiau: 1 Medi, 2024

(Cyfun 11 - 16; 487 o ddisgyblion)

Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar. Gofynnir i chi nodi pa feysydd eraill y buasech yn gymwys i'w dysgu ac i ba lefel yn eich llythyr cais.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,743 - £47,340) y flwyddyn ynghyd a lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu CAD2 o £7,986 y flwyddyn i'r ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mr Dylan Minnice (Rhif ffôn 01758 730220) neu trwy e-bost: Dylan.MINNICE@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Nia Williams, Ysgrifenyddes, Ysgol Botwnnog, Botwnnog, Pwllheli, Gwynedd (Rhif Ffôn:01758 730220; Ffacs:01758 730439; e-bost: Dylan.MINNICE@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DDYDD LLUN, 18 O FAWRTH, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma ar ddydd Iau, 21 o Fawrth, 2024.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This is an advertisement for a Head of English at Ysgol Botwnnog for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service disclosure and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

PENNAETH ADRAN SAESNEG YSGOL BOTWNNOG
Rheolwr Llinell ar gyfer: Athrawon Saesneg
Atebol i: Prifathro
Amcan
Rheoli, arwain a gosod cyfeiriad pendant i waith yr adran. Sicrhau addysgu o ansawdd uchel, defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau, safonau cyrhaeddiad uchel a chynnydd parhaol ymhlith disgyblion. Cydweithio i hyrwyddo llythrennedd ar draws y cwricwlwm.
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Llŷn yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Sicrhau cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
• Trwy weithio o dan gyfarwyddid y pennaeth a chydweithio a'r UDRh ac athrawon eraill mae'r Pennaeth adran yn cyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion.
• Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldebau a Dyletswyddau
Amodau
Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu gynrychiolydd. Yn ychwanegol, mae'n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau'r ysgol.
Gweithredu'r 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth'. Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w monitro a'u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
Prif Gyfrifoldebau Pennaeth Adran Saesneg
Dyletswyddau penodol: Arwain yr adran yn effeithiol. Golyga hyn:
Arweinyddiaeth ac Atebolrwydd
• Darparu arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol a thrwy hynny ddatblygu a chynnal tîm effeithiol athrawon sy'n ymdrechu i hybu'r dysgu a'r addysgu i'r safon uchaf.
• Datblygu ac ymestyn arfer addysgu athrawon eraill yn y maes dysgu drwy rannu a lledaenu arferion da.
• Arwain, cydlynu a chymryd rôl flaenllaw wrth baratoi cynlluniau gwaith o fewn yr adran
• Cefnogi'r UDRh wrth weithredu blaenoriaethau ysgol gyfan
• Cynghori'r UDRh am ddatblygiadau yn y maes ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
• Cadeirio ac arwain cyfarfodydd cyfadran - darparu agenda a chofnodion ar gyfer staff, y Pennaeth a'r Aelod Cyswllt o'r Uwch Dim Rheoli.
• Cynnal a chefnogi staff yr adran
• Llunio adroddiadau hunan arfarnu ar waith yr adran yn unol â'r drefn traws-ysgol. Gweithredu ar y canfyddiadau.
• datblygu trefniadau ar gyfer disgyblion ag ADY yn yr adran, gan gynnwys ymateb i anghenion unigol disgyblion drwy gydweithrediad â'r Cydlynydd,
• Llunio Cynllun Datblygu'r Maes Dysgu a Phrofiad sy'n ymateb i ganfyddiadau'r hunan arfarnu.
• Gweithredu'r Cynllun Datblygu yng nghyd-destun datblygiad ysgol gyfan.
• Chwarae rhan allweddol fel pennaeth maes dysgu a phrofiad yn natblygiad pob agwedd o fywyd yr ysgol.
• Hybu gweithgareddau allgyrsiol a diwylliannol e.e. clwb gwaith cartref, ymweliadau, cystadlaethau.
• Gofalu fod athrawon dan hyfforddiant ac Athrawon Newydd Gymhwyso o fewn yr adran yn cael eu cynnal, eu monitro a'u harfarnu, yn unol â threfn yr ysgol.
• Cydweithio gyda'r cydgysylltydd Llythrennedd (Cymraeg) i ddatblygu llythrennedd ar draws y cwricwlwm.
Cynlluniau Gwaith
• Datblygu cynlluniau gwaith cynhwysfawr sy'n cyflawni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, yn cynnwys ystod o ddulliau dysgu ac addysgu sy'n cynnig profiadau cyfoethog trawsgwricwlaidd i'r disgyblion, sy'n cyfeirio at ofynion pynciol ond hefyd at ddatblygiad sgiliau, yn rhoi sylw amlwg i lythrennedd, rhifedd, TGCH a sgiliau dysgu yn ogystal â`r sgiliau allweddol ehangach, ynghyd ag amrywiaeth o ddulliau asesu ar adegau allweddol sy'n fodd i fesur yn gywir gynnydd disgyblion.
• Datblygu polisïau adrannol/cyfadrannol gweithredol.
Monitro a Hunan Arfarnu
• Monitro ansawdd yr addysg yn yr adran gan hybu addysg effeithiol ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• Monitro gwaith yr adran drwy arsylwi gwersi, craffu ar waith disgyblion, marcio ar draws yr adran, ac unrhyw ddull perthnasol arall, ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• Sicrhau fod yr arfarniad adrannol yn gyfredol.
• Codi safonau a chyrhaeddiad disgyblion ar draws yr holl ystod gallu o fewn yr adran, monitro a chefnogi cynnydd disgyblion, ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• Rhoi ar waith bolisi asesu a gosod targedau'r ysgol, gan wneud defnydd effeithiol o'r data i fonitro, gwerthuso ac ymestyn gallu disgyblion yn y maes.
• Bod yn atebol am gynnydd disgyblion yn y maes dysgu
• Cynnal a chefnogi disgyblaeth a chanmoliaeth disgyblion o fewn y maes dysgu.
• Defnyddio ystadegau i ddadansoddi cryfderau a gwendidau y ddarpariaeth gyfadrannol a chydweithio â holl staff y gyfadran a`r UDRH i addasu yng ngoleuni`r dadansoddiad hwnnw.
• Arfarnu cyrsiau'r adran yn rheolaidd mewn ymgynghoriad â'r athrawon pwnc.
Delio â Thangyflawni
• Arwain a chydweithio ag aelodau eraill y gyfadran i gynnal a hybu cymhelliant a delio`n effeithiol â thangyflawni.
• Cefnogi, cynnal a datblygu staff yr adran mewn cydweithrediad â'r Tiwtor Proffesiynol.
Rheolaethol
• Sicrhau gweinyddiaeth effeithiol.
• Sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau dynol a chyllidol yr adran.
• Paratoi adroddiadau ar waith yr adran yn ôl y galw.
• Cyfarfod yn rheolaidd â'r aelod cyswllt o'r Uwch Dim Rheoli a'r Llywodraethwr Cyswllt i drafod materion strategol
• Gweithredu fel Arfarnwr yn y drefn Rheoli Perfformiad lle bo'n cyd-fynd â threfn yr ysgol.
• Cydweithio'n effeithiol gyda'r swyddog arholiadau.
• Cynrychioli'r adran a gwneud cyfraniad ar lefel ysgol gyfan mewn cyfarfodydd yn ôl y galw.
• Cydweithio gydag ysgolion cynradd i sicrhau dilyniant esmwyth wrth drosglwyddo.
Pynciau Penodol o fewn yr Adran
• Saesneg Iaith a Llenyddiaeth
Mae'r Adran yn paratoi disgyblion tuag at y cymwysterau canlynol;
• TGAU
• Lefel Mynediad
Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd:
• Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Tynnu sylw'r person priodol at unrhyw broblem.
• Cynnig addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau'r unigolion.
• Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog disgyblion i gadw'r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus.
• Yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith, gan gynnwys paratoi disgyblion ar gyfer profion neu arholiadau mewnol ac allanol yn ôl yr angen.
• Cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
• Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysgir.
• Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
• Sicrhau fod gwersi yn cychwyn ac yn gorffen ar amser a bod y disgyblion yn cael eu derbyn i'r dosbarth a'u hanfon allan dan reolaeth a threfn.
• Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i'w g/ofal hyd eithaf ei allu.
• Gosod a marcio gwaith y disgyblion.
• Cynnal disgyblaeth yn unol â'r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr ysgol.
• Cyfrannu at gyfarfodydd, trafodaethau a threfniadau rheolaeth yn ôl y gofyn i ddatblygu a chydlynu gwaith yr ysgol.
• Cyfrannu at drefniadau'r ysgol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflawniad disgyblion.
• Cymryd rhan yn nhrefniadau'r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad.
• Ymroi i ddatblygiad proffesiynol sy'n berthnasol i'r swydd a chyfrifoldebau drwy gydol ei g/yrfa.
• Cynghori, arwain a chydweithio â'r pennaeth ag athrawon eraill yn ôl y gofyn mewn perthynas â darparu a datblygu rhaglenni gwaith, deunyddiau addysgu, dulliau asesu a.y.y.b.
• Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff sy'n ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
• Hunan-arfarnu safonau ac arferion dysgu - ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a'r amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
• Mynychu cyfarfodydd amrywiol ar nosweithiau yn unol â threfniadau'r ysgol.
• Mynychu nosweithiau rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
• Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol o fewn oriau cyfeiriedig.
• Mynychu hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
• Hybu blaenoriaethau Cynllun Datblygu Ysgol presennol.
• Cyfrannu'n bwrpasol i ddatblygu'r ysgol i fod yn ganolfan sy'n cynrychioli'r arferion a'r safonau proffesiynol uchaf.
• Cydweithio'n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.
• Cyfrannu gyda'r Pennaeth i sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.
• Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Cysylltiadau
Bydd y sawl sydd yn y swydd yn:
• rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu yn yr ysgol.
• gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi