MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth (Ysgol Gynradd Bontnewydd Ar Wy)

Cyngor Sir Powys
Pennaeth (Ysgol Gynradd Bontnewydd Ar Wy)
Swydd-ddisgrifiad
PENNAETH

Ei angen ar gyfer Medi 2024

Ymrwymiad addysgu 0.4

ISR: 8 - 14Nifer ar y gofrestr: 109

Dyddiad cau: Dydd Gwener 1 Mawrth 2024

Ysgol bentref fach, lwyddiannus ond uchelgeisiol yw'r Bontnewydd ar Wy wrth galon y gymuned leol. Lleolir yr ysgol yng nghefn gwlad bendigedig Canolbarth Cymru ac mae'r ysgol yn gallu mwynhau manteision lleoliad gwledig a chwarae rhan hollbwysig yn y gymuned leol. Mae'r Corff Llywodraethu'n awyddus i benodi arweinydd llawn cymhelliant ac ysbrydoledig i barhau â'r cymhelliant i gyrraedd safonau uchel ac arwain datblygiad yr ysgol yn y dyfodol. Bydd y rôl hon yn cynnwys cyfrifoldebau addysgu yn y dosbarth o fewn rôl arweinyddiaeth a rheolaeth y pennaeth, gan roi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus i gymryd rhan weithgar yn y gwaith o gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae gweledigaeth yr ysgol wrth galon popeth a wnawn:

Cydweithio i fod yn ysgol lwyddiannus sy'n canolbwyntio ar y plentyn yng nghalon ein cymuned lle mae'r addysg yn gyffrous, yn arloesol a llawn dychymyg, a lle caiff meddyliau eu hysbrydoli i lwyddo a ffynnu. Ymdrechwn i baratoi'r plant gyda'r sgiliau, y gwerthoedd Cristnogol a'r meddylfryd fydd yn eu galluogi i ffynnu a gwireddu eu llawn botensial, nid yn unig yn yr ysgol, ond yn eu bywyd nawr ac yn y dyfodol.

Rydym am benodi arweinydd a fydd yn:
  • yn ofalgar, yn gefnogol ac yn gweithio fel rhan o dîm
  • â disgwyliadau uchel o ddisgyblion a staff a gall symud yr ysgol ymlaen o'i sefyllfa bresennol gadarnhaol iawn
  • yn delio gydag anghenion amrywiol holl ddisgyblion yr ysgol, gan gynnwys y rhai gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a disgyblion Mwy Abl a Thalentog (MAT).
  • rhagweithiol o ran cefnogi ethos a gwerthoedd Cristnogol yr Ysgol
  • â hanes profedig fel arweinydd, rheolwr effeithiol ac athro rhagorol, sy'n ysbrydoli ac yn grymuso'r rhai o'i gwmpas.
  • â gweledigaeth glir i ddatblygu'r ysgol ymhellach, a'r sgiliau a'r penderfyniad i gyflwyno'r weledigaeth honno gyda chefnogaeth staff, rhieni a llywodraethwyr.
  • yn arwain ac yn ysgogi disgyblion, staff a'r gymuned ehangach i greu diwylliant effeithiol a chynhwysol o ddysgu gydol oes
  • yn credu ym manteision partneriaeth agos rhwng yr ysgol a'r gymuned ehangach
  • yn gallu gweithio ar y cyd ac yn effeithiol gyda rhwydweithiau clwstwr, rhanbarthol a chenedlaethol
  • yn angerddol am addysgu a dysgu ac yn dangos ymrwymiad mawr i'r plant a'r staff.
Yn gyfnewid am hyn gallwn gynnig i chi:
  • Staff brwdfrydig ac ymroddedig;
  • Corff Llywodraethu cefnogol;
  • Plant sy'n cael eu gwerthfawrogi, sy'n hapus ac yn awyddus i ddysgu;
  • Amgylchedd gweithio a dysgu deniadol a dymunol.
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch ag is-gadeirydd y corff llywodraethu - Miss Jennie Rees - reesj517@hwbcymru.net neu 01597860273 drwy'r ysgol. (Ymweliadau rhwng Dydd llun 19eg Chwefror - dydd Gwener 23ain Chwefror)

Gwefan: Newbridge-on-Wye Church in Wales School

Disgwylir y bydd y cyfarfod creu rhestr fer a'r cyfweliadau yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad cau: Dydd Gwener 1 Mawrth, 2024

Creu Rhestr Fer: Dydd Llun 4 Mawrth 2024

Cyfweliad: Dydd Llun 18 Mawrth 2024

Bydd y swydd hon yn destun gwiriad DBS uwch.

Mae'n ofynnol bod Penaethiaid newydd yng Nghymru yn meddu ar gymhwyster CPCP, oni bai bod yr ymgeisydd wedi bod yn gweithio fel pennaeth cyn 2004. Fodd bynnag, ystyrir ymgeiswyr sy'n aros am asesiad o'r CPCP.