MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Bro Idris, Dolgellau,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cefnogol Lefel 3, Ysgol Bro Idris

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Ionawr 2024

Annwyl Ymgeisydd

Swydd: Cymhorthydd Dosbarth Lefel 3 32.50 awr

Ysgol: BRO IDRIS, DOLGELLAU

Diolch i chi am eich ymholiad am y swydd uchod. Amgaeaf ffurflen gais a manylion pellach.

Yr amser cau ar gyfer ceisiadau am y swydd yw hanner dydd ar y 22 Chwefror 2024.

Fe all aelod o'r Panel Penodi fod angen gwybodaeth am ymgeiswyr yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac felly gwahoddir i chwi i gyflwyno eich cais yn y ddwy iaith. A fyddwch cystal â sicrhau bod eich rhif ffôn symudol a/neu gyfeiriad e-bost wedi ei gynnwys ar y ffurflen gais.

Os ydych chi'n dymuno cyflwyno cwricwlwm vitae yn ogystal fel rhan o'ch cais fe ganiateir hyn, ond gofynnir i chwi hefyd gwblhau'r ffurflen gais safonol yn llawn.

Os ydych yn dymuno cael manylion pellach am y swydd cysylltwch â'r Pennaeth Strategol Mrs Jano Owen (01341) 424949 ( Pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru ) . Eich cyswllt yn yr Ysgol yw Miss Eirian R Hoyle ar (01341) 424949. ( sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru )

Nid ydym yn cydnabod derbyn ffurflenni cais. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cael cadarnhad fod eich cais wedi ei dderbyn, yna ffoniwch Eirian Hoyle yn yr Ysgol ar (01341) 424949.

PWYSIG - Nodwch, os gwelwch yn dda, enw a chyfeiriad dau ganolwr. I ymgeisydd sydd eisoes mewn gwaith mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn eich cyflogi ar hyn o bryd.

PWYSIG:- Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY (Rhif ffôn: 01341 424949) os y dymunir dychwelyd y cais drwy'r post neu gallwch ebostio'r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru

dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol

Oherwydd bod tâl post yn ddibynnol ar faint a phwysau amlenni, dylech sicrhau bod y tâl post cywir ar yr amlen wrth ddychwelyd eich ffurflen gais. Mae yna bosibilrwydd na fydd eich cais yn cyrraedd cyn y dyddiad cau os na fyddwch yn cydymffurfio gyda'r uchod

Yn gywir

Jano Owen

Mrs Jano Owen

Pennaeth Strategol

ADDYSG

YSGOLION CYNRADD/UWCHRADD

YSGOL BRO IDRIS, DOLGELLAU

(Cyfun 3 - 16: 581 o ddisgyblion)

Dyddiad dechrau: Cyn gynted a Phosib

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 3

Mae Llywodraethwyr yn dymuno penodi Cymhorthydd Lefel 3 Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Lleolir y swydd ar Y Brif Safle Ysgol Bro Idris yn benodol ar gyfer gwaith llanw ar draws Ysgol Gyfan. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad perthnasol a'r rhinweddau penodol ar gyfer y swydd o Gymhorthydd Lefel 3 yn yr ysgol. Gweler y Swydd Disgrifiad a'r Manylion Person am fwy o wybodaeth am y swydd.

Oriau Gwaith: 32.50 awr yr wythnos (8:30-3.30 hanner awr i ginio)

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'ch oriau arferol.)

Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (£18,843 - £20,150) y flwyddyn i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymwysterau.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth Strategol, Mrs Jano Owen rhif ffôn 01341424949, e-bost:- pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY (Rhif ffôn: 01341 424949) os y dymunir dychwelyd y cais drwy'r post neu gallwch ebostio'r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru

dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 22ain o Chwefror 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr Ysgol

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

MANYLEB PERSON

Profiad

  • Profiad o weithio gyda phlant o'r oed perthnasol.

Cymwysterau

  • Sgiliau rhifedd/llythrennedd da iawn.
  • NVQ3 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster cyfwerth, e.e. Braille Lefel 2,

BTEC Lleferydd ac Iaith, BSL Lefel 2.

  • Hyfforddiant yn y strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd neu feysydd clyw penodol, iaith arwyddo, dyslecsia, TGaCh, Mathemateg a Saesneg.
  • Hyfforddiant cymorth cyntaf priodol.

Gwybodaeth/ Sgiliau

  • Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithiol i gefnogi dysgu.
  • Defnyddio offer a thechnoleg arall - fideo, llungopïwr.
  • Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau/codau ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
  • Gwybodaeth weithio o'r cyfnod sylfaen, cwricwlwm cenedlaethol, llwybrau 14-19 a rhaglenni/strategaethau dysgu perthnasol eraill fel y bo'n briodol.
  • Deall egwyddorion datblygiad plentyn a phrosesau dysgu.
  • Y gallu i hunan-werthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu yn weithredol.
  • Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rhain.

Goruchwylwyr Cyflenwi

  • Bod â'r sgiliau angenrheidiol i reoli gweithgareddau dosbarth a'r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.
  • Deall a gallu defnyddio ystod o strategaethau i ddelio gydag ymddygiad dosbarth yn ei gyfanrwydd a hefyd anghenion ymddygiad unigol.

Swydd Ddisgrifiad
YSGOL BRO IDRIS

DISGRIFIAD SWYDD

SWYDD: CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU (LEFEL 3)

(GORUCHWYLIWR/GORUCHWYLWRAIG CYFLENWI)

AMSER: 32.50 awr yr wythnos (8:30-3.30 Oriau i'w trafod a'u cadarnhau, hanner awr i ginio)

40 wythnos y flwyddyn (yn cynnwys 5 diwrnod HMS a 5 diwrnod yn ystod y gwyliau)

YSTOD CYFLOG: G4 - (7-11)

YN ATEBOL I: Y Pennaeth Strategol/Uwch Dim Rheoli drwy'r Pennaeth Safle

PWRPAS Y SWYDD

  • Gweithio o dan arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol o fewn cyfundrefn gytøn o oruchwyliaeth.
  • Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.
  • Cyfrannu at gylch cynllunio'r athro er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu.
  • Yn achlysurol, goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes. Prif ffocws cyflenwi o'r fath fydd ymateb i gwestiynau, cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau a osodwyd ac aros ar y dasg a chynnal trefn.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Cefnogaeth i Ddisgyblion

  • Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi disgyblion.
  • Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu CAU (IEPs) a CYU(IBPs).
  • Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda'r disgyblion ac ennyn disgwyliadau uchel.
  • Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
  • Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
  • Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau polisïau yr AALL ac ysgolion.
  • Cefnogi disgyblion yn gyson gan adnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.
  • Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio gydag eraill.
  • Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawni hunanddibyniaeth.
  • Darparu adborth effeithlon i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad, yn cynnwys ymddygiad a phresenoldeb.

GORUCHWYLIWR/GORUCHWYLWRAIG GYFLENWI

  • Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel bo'r gofyn.

Cefnogaeth i ddisgyblion wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb yr athro/athrawes

  • Cofrestru a chofnodi presenoldeb myfyrwyr mewn gwersi.
  • Cyfarwyddo myfyrwyr ynghylch y gwaith a adawyd gan eu hathro/hathrawes.
  • Darparu'r adnoddau angenrheidiol i'r myfyrwyr ar gyfer eu dysgu.
  • Sicrhau yr eir i mewn i'r dosbarthiadau ac y deuir allan ohonynt yn drefnus.
  • Creu amgylchedd tawel a phwrpasol lle gall disgyblion gwblhau gwaith a osodwyd gan yr athro dosbarth.
  • Dilyn cyfundrefnau a gweithdrefnau ysgol ar reoli ymddygiad.
  • Rheoli adnoddau'n effeithlon a sicrhau y gadewir dosbarthiadau'n daclus ac yn barod ar gyfer y wers nesaf.
  • Casglu unrhyw waith a gwblhawyd ar ôl y wers a'i ddychwelyd i'r athro priodol.
  • Cysylltu â'r athro/athrawes mewn perthynas â gwaith cyflenwi.

Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes

  • Gweithio gyda'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.
  • Gweithio gyda'r athro/athrawes i gynllunio gwersi, gwerthuso ac addasu gwersi/cynlluniau gwaith fel y bo'n briodol.
  • Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
  • Darparu cefnogaeth glerigol/weinyddol gyffredinol, e.e. gweinyddu gwaith cwrs, cynhyrchu taflenni gwaith at gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.
  • Darparu adborth lafar ac ysgrifenedig i'r athro/athrawes ar gynnydd a chyflawniad disgyblion.
  • Fel y cytunwyd gyda'r athro/athrawes, bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion. Cyfrannu at arolwg o gyfundrefnau cadw cofnodion yr ysgol fel bo'r gofyn.

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm

  • Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
  • Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh.
  • Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.
  • Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion wrth ei ddefnyddio.
  • Cynorthwyo disgyblion i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.
  • Pennu'r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a'u cynnal a'u cadw.

GORUCHWYLIWR CYFLENWI/ GORUCHWYLWRAIG GYFLENWI

  • Cefnogaeth i'r Cwricwlwm wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb athro/athrawes.
  • Casglu banc o waith goruchwylio mewn cysylltiad ag aelodau perthnasol y staff addysgu.

Cefnogaeth i'r Ysgol

  • Bod yn ymwybodol o'r polisïau a'r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd ac amddiffyn data, a chydymffurfio â hwy, gan adrodd am bob pryder wrth y person priodol. Dylai hyn hefyd, ar gyfer goruchwylwyr cyflenwi, gynnwys rheoli ymddygiad.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
  • Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â'r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chyfranogi ynddynt.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.
  • Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd yr hunan a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
  • Darparu arweiniad a goruchwyliaeth priodol a chynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad staff cynhaliol eraill fel y bo'n briodol.
  • Ymgymryd â goruchwylio cynlluniedig o weithgareddau dysgu'r disgyblion y tu allan i oriau ysgol.
  • Goruchwylio'r disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol.
  • Pe byddai angen, disgwylir i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio ar unrhyw safle yn ôl y gofyn.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi