MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro\/Athrawes Blwyddyn 5\/6 Parhaol CA2 - Ysgol Swn y Don

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
YSGOL SŴN Y DON

Penmaenrhos, Bae Colwyn, LL29 9LL

Rhif ffôn: (01492) 577290

Pennaeth: Mrs Suzanne Fox

Yn eisiau cyn gynted â phosib

ATHRO/ATHRAWES BLWYDDYN 5/6 PARHAOL CA2

Mae Ysgol Sŵn y Don yn dymuno penodi athro/athrawes CA2 angerddol, gofalgar, llawn cymhelliant gyda profiad dysgu blwyddyn 5/6 i ymuno â'n tîm effeithiol.

Gweledigaeth. Dyhead. Pwrpas.

Yn Sŵn y Don, rydym yn meithrin creadigrwydd ac yn annog pawb i ddilyn eu breuddwydion.

Rydym yn angerddol am roi'r plant yn gyntaf, drwy gwricwlwm cynhwysol, ysbrydoledig ac arloesol, sy'n mynd y tu hwnt i'r dosbarth. Rydym yn darparu amgylchedd dysgu wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth, parch a derbyn. Mae ein plant yn ddiogel a hapus.

Yn Sŵn y Don, rydym wir yn credu bod popeth yn bosibl!

Drwy gefnogaeth a gofal, rydym yn rhoi grym i'n disgyblion i fod yn llwyddiannus, a rhoi'r arfau iddynt ddeall sut i fyfyrio, datblygu a chymryd cyfrifoldeb am eu teithiau dysgu eu hunain.

Cydweithio i sicrhau gwell dyfodol i bawb!

Ehangu eich gorwelion.

Credu yn eich breuddwydion.

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon profiadol ac ymroddgar, sy'n deall pwysigrwydd datblygu'r Cwricwlwm i Gymru, drwy'r pedwar diben a gosod lles a meithrin wrth wraidd eu haddysgu a'u dysgu.

Yr hyn rydym ni'n ei gynnig:
  • Ysgol gyfeillgar, groesawgar, sy'n meithrin, a ble mae pawb y cael ei werthfawrogi.
  • Amgylchedd sy'n seiliedig ar Drawma, a'n gwerthoedd craidd yw cynhwysiant, cydraddoldeb a thegwch.
  • Staff ymroddgar, llawn cymhelliant sy'n credu mewn gwaith tîm a meithrin perthnasoedd positif yn yr ysgol a'r gymuned.
  • Cefnogaeth lawn y Pennaeth a'r Llywodraethwyr ar gyfer datblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • Yn gallu dangos sgiliau effeithiol mewn trefnu dosbarth a rheoli ymddygiad.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol â dysgwyr, aelodau'r Corff Llywodraethu, staff, rhieni/ gofalwyr a gallu meithrin perthnasoedd effeithiol â gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Gallu bodloni gofynion y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arwain.
  • Gallu gweithio'n effeithiol ar eich liwt eich hun yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Yn ddibynadwy, gwydn, hyblyg a rhagweithiol.
  • Gallu arwain Maes Dysgu a Phrofiad.
  • Byddai diddordeb mewn Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu o fantais.
  • Profiad o gynllunio as gyfer trosglwyddo or cynradd it uwchradd
Rydym yn chwilio am:
  • Ymarfer eithriadol yn y dosbarth a gallu ysbrydoli ac ennyn diddordeb dysgwyr ifanc; bydd yr ymgeisydd yn ysbrydoledig, arloesol, creadigol, gofalgar, llawn brwdfrydedd a bydd yn gwneud addysg ein plant yn bleserus a hwyliog.
  • Gwybodaeth dda am systemau gofal bugeiliol, yn cynnwys grymuso disgyblion.
  • Gallu gweithio'n effeithiol gyda'n gilydd fel aelodau o'n tîm ysgol cryf a chyfrannu'n llawn at fywyd yr ysgol yn cynnwys gweithgareddau allgyrsiol.
  • Athro/athrawes ofalgar sydd â lles disgyblion a'u teuluoedd wrth wraidd popeth a wnânt.
  • Mantais ychwanegol fyddai cael ymgeiswyr sydd â diddordeb a phrofiad o weithio gyda phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Rhinweddau a sgiliau dymunol:
  • Gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad o brosesau asesu a chamau cynnydd.
  • Awydd i ddatblygu sgiliau arwain a cheisio datblygu eu dysg broffesiynol eu hunain.
  • Gallu arwain mentrau ysgol gyfan yn llwyddiannus drwy gydweithio a phrosiectau'n seiliedig ar ymchwil.

Mae gallu addysgu a chyfathrebu'n effeithiol yn y

Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd.

Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun

datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau gweithio.

Er mwyn gwneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i wneud cais ar-lein.

Sylwer nad yw'r awdurdod yn rhoi ffurflenni cais bellach, nac yn derbyn CVs.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth ar 01492 577290

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio

Os na chewch glywed o fewn 3 wythnos o'r dyddiad cau, dylai ymgeiswyr gymryd nad

ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad ac felly ni fyddwch yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English