MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cyswllt â Theuluoedd (Addysg)

Cyngor Sir Powys
Swyddog Cyswllt â Theuluoedd (Addysg)
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:

Mae Swyddogion Cyswllt Teulu yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, mewn partneriaeth ag ysgolion, yr Awdurdod Lleol ac asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac o safon. Mae hyn yn cynnwys gwella hyder a sgiliau rhieni, cefnogi teuluoedd i gynyddu presenoldeb, a datblygu rhaglenni sy'n cefnogi dysgwyr bregus a'u teuluoedd i fyw bywyd iach a hapus.

Amdanoch chi:

* Ymrwymiad i gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd

* Sgiliau rhyngbersonol rhagorol

* Sgiliau cyfathrebu effeithiol

* Gallu i feddwl yn greadigol

* Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o bresenoldeb

Beth fyddwch chi'n gwneud:

* Sicrhau dull brwdfrydig tuag at gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd

* Ymateb yn effeithiol i anghenion newidiol

* Defnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol i feithrin perthynas gyda theuluoedd ac ysgolion

* Cefnogi teuluoedd i ymgysylltu â bywyd ysgol

* Cysylltu ag ystod eang o bartneriaid ac asiantaethau allanol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â:

Sarah Quibell - Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cymorth Addysg

E-bost: sarah.quibell@powys.gov.uk

Neu

Adele Evans - Rheolwr Ysgolion Bro E-bost: adele.evans1@powys.gov.uk

Bydd angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon