MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) Ysgol Uwchradd Llanidloes

Cyngor Sir Powys
Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) Ysgol Uwchradd Llanidloes
Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o'r ysgolion mwyaf hapus a mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Rydyn wedi'n bendithio â diwylliant dysgu bywiog a llewyrchus, ethos gofalgar a thîm staff hynod ymroddedig. Dyma gyfle cyffrous ar gyfer unigolyn deinamig a gweithgar i gyfrannu'n llawn at fwynhâd ein disgyblion o ddysgu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithgar, yn hyblyg ac yn ymdrechu i gyflawni a chynnal y safonau uchaf. Byddant yn goruchwylio gwersi yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd o fewn Ffederasiwn Ysgolion Llanidloes.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • ofalgar am les a llwyddiant academaidd pob un o'n disgyblion;
  • weithgar iawn ac yn ysbrydoli cariad tuag at ddysgu fydd yn sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni'r safonau academaidd uchaf posibl;
  • ddeinameg yn y dosbarth ac yn cynnal safonau uchel iawn o ddysgu;
  • meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog, yn wir aelod o dîm ac yn fedrus wrth weithio'n annibynnol;
  • meddu ar sgiliau trefnu ardderchog ac ag egwyddor waith cryf;
  • cyfrannu'n llawn at ddarparu cyfleoedd all-gyrsiol;
  • meddu ar agwedd bositif tuag at ddatrys problemau.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i gynnig pwnc ychwanegol yn ddymunol, ond ddim yn angenrheidiol.

Cysylltwch â Mrs S Bound am fwy o wybodaeth

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS