MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Saesneg - Ysgol Godre'r Berwyn

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG


YSGOLION DILYNOL


YSGOL GODRE'R BERWYN, Y BALA

(Cyfun 3 - 18: 577 o ddisgyblion)

AIL HYSBYSEB

Yn eisiau: ar gyfer: 01 Medi 2024

ATHRO/ATHRAWES SAESNEG

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i addysgu Saesneg drwy'r Ysgol.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid, Ysgol Godre'r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259) e-bost: iwan.jones @godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru .Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN, 19 CHWEFROR 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(The above is a re-advertisement for an English Teacher at Ysgol Godre'r Berwyn, Y Bala, for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

MANYLION PERSON

Teitl y Swydd Athro/Athrawes Iechyd a Gofal a Phynciau Eraill Ysgol Godre'r Berwyn
Adran Addysg
Lleoliad Ysgol Godre'r Berwyn

Athro/Athrawes

GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD
CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU Dull Asesu
• Gradd Anrhydedd
• Statws athro wedi cymhwyso
GWYBODAETH A SGILIAU
• Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol
• Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sectorau cynradd ac uwchradd
• Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau hunan-arfarnu a dealltwriaeth gyflawn o bwrpas cynllun datblygu yr ysgol
• Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb
• Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
• Meddu ar wybodaeth dda o'r cwricwlwm ehangach tu hwnt i'r ysgol a'r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol
• Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o'r Iaith Gymraeg/Cwricwlwm Cymreig yn yr ysgol

PROFIAD
• Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol
• Profiad o ddatblygu strategaethau addysgu a dysgu effeithiol
• Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill
• Tystiolaeth o weithio'n effeithiol gyda llywodraethwyr
NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL
• Dangos brwdfrydedd ac ymroddiad tuag at y broses ddysgu
• Hawdd mynd ato/ati a gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill
• Gallu arddangos yn glir i ba gyfeiriad mae'r ysgol yn mynd
• Parod i gydweithio ag asiantaethau eraill er lles disgyblion, teuluoedd a'r gymuned
• Yn rhugl o ran safon sgiliau ar lafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg
ANGHENION Y BUASAI'N DDYMUNOL EU CAEL YN Y SWYDD
• Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus

ATODIAD I SWYDD DDISGRIFIAD: ATHRO/ATHRAWES

Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth - wedi eu haddasu gan yr Ysgol

Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin

• Iaith a Diwylliant Cymru
Mae'r athro yn pwysleisio'n gyson ei bod yn hollbwysig hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru. Caiff dysgwyr eu helpu i feithrin sgiliau ym mhob maes dysgu ac achubir ar bob cy e i ymestyn sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
• Hawliau Dysgwyr
Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn ymagwedd yr athro at ei swydd. Mae gan yr athro ddisgwyliadau uchel ac ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni.
• Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol
Mae'r athro yn pwysleisio'n gyson bod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn hollbwysig. Caiff dysgwyr eu helpu i feithrin sgiliau ym
mhob maes dysgu ac achubir ar bob cy e i ymestyn sgiliau
a chymhwysedd dysgwyr.
• Dysgwyr Proffesiynol
Mae'r athro yn ddysgwr proffesiynol ac yn ymrwymo i ddatblygu, cydweithredu ac arloesi'n barhaus drwy gydol ei yrfa.
• Rôl yn y System
Mae'r athro yn ymrwymedig i ddysgwyr ym mhob man ac mae'n chwarae rhan ddylanwadol wrth ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
• Hawl Broffesiynol
Mae gan yr athro hawl broffesiynol i
fod yn rhan o ysgol sy'n ystyried ei hun yn sefydliad dysgu. Mae gan yr athro yr ymreolaeth i gyfrannu at y proffesiwn yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang ac mae ganddo'r hawl i ddechrau a chefnogi gwelliannau i'r ysgol er budd dysgwyr.

Y Pum Safon Proffesiynol ar gyfer addsygu ac arweinyddiaeth
• Addysgeg...mae'n holl bwysig
• Arweinyddiaeth...helpu i dyfu
• Dysgu Proffesiynol...mynd yn ddyfnach
• Arloesi...symud ymlaen
• Cydweithredu...galluogi lledaenu

Safon Elfennau

ADDYSGEG

Mireinio Addysgu

Rheoli'r amgylchedd dysgu
Asesu
Gwahaniaethu
Cofnodi ac Adrodd
Cynnwys Partneriaid mewn dysgu

Hyrwyddo Dysgu

Pedwar diben i ddysgwyr
Ymelwa ar ddisgyblaethau pynciol mewn meysydd dysgu
Profiadau dysgu cyfunol
Cyd-destunau bywyd go iawn dilys
Dilyniant mewn dysgu
Themau trawsgwricwlaidd

Dylanwadu ar Ddysgwyr

Herio a disgwyliadau
Gwrando ar ddysgwyr
Dysgwyr yn arwain dysgu
Ymdrech barhaus a gwydnwch dysgwyr
Myfyrio ar ddysgu
Deilliannau dysgu a lles

CYDWEITHREDU

Ceisio cyngor a chymorth
Gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysgol
Cefnogi a datblygu eraill
Galluogi gwelliannau

DYSGU PROFFESIYNOL

Darllen ehangach a chanfyddiadau ymchwil
Rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol
Dysgu proffesiynol parhaus
Sgiliau Cymraeg

ARLOESI

Cynnig arbenigedd
Datblygu technegau newydd
Gwerthuso effaith newid mewn ymarfer

ARWEINYDDIAETH

Cymryd cyfrifoldeb personol
Arfer cyfrifoldeb corfforaethol
Arwain cyd-weithwyr, prosiectau a rhaglenni
Cefnogi rolau arweinyddiol ffurfiol

Swydd Ddisgrifiad

ATHRO/ATHRAWES

YSGOL GODRE'R BERWYN

SWYDD DDISGRIFIAD ATHRO/ATHRAWES

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon yn ôl profiad a chymhwyster

Pwyntiau Cyflog:

Cyflog: £23,720- £39,406

Dyletswyddau

Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.

Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd. Yn ychwanegol, mae'n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau'r ysgol:

Cyfrifoldebau Penodol Athro/awes

Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd

  • Gweithredu'r 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth' . Dylid hybu nodweddion,

gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w

monitro a'u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n

ddiogel a hyderus.
  • Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Tynnu sylw Pennaeth Ffês, Tiwtor Dosbarth neu'r Pennaeth at

unrhyw broblem.
  • Cynnig addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau'r

unigolion.

- Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith

plant a staff yn rheolaidd, ac annog disgyblion i gadw'r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn

daclus.

- yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith yn ofalus a thrylwyr. Hefyd,

cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.

- Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysgir.

- Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.

- Sicrhau fod gwersi yn cychwyn ac yn gorffen ar amser a bod y disgyblion yn cael eu derbyn i'r

dosbarth a'u hanfon allan dan reolaeth a threfn.

- Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i'w ofal hyd eithaf ei allu.

- Gosod a marcio gwaith y disgyblion.

  • Cynnal disgyblaeth yn unol â'r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr ysgol;
  • Cyfrannu at gyfarfodydd, trafodaethau a threfniadau rheolaeth yn ôl y gofyn i ddatblygu a chydlynu gwaith yr ysgol;
  • Cyfrannu at drefniadau'r ysgol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflawniad disgyblion;
  • Cymryd rhan yn nhrefniadau'r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad;
  • Cyfranogi i drefniadau hyfforddi a datblygiad proffesiynol sy'n berthnasol i'w swydd a chyfrifoldebau;
  • Cynghori, arwain a chydweithio â'r pennaeth ag athrawon eraill yn ôl y gofyn mewn perthynas â darparu a datblygu rhaglenni gwaith, deunyddiau addysgu, dulliau asesu a.y.y.b.;
  • Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff sy'n ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
  • Hunanarfarnu safonau ac arferion dysgu - ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
  • Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a'r

amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
  • Mynychu cyfarfodydd amrywiol ar nosweithiau Mawrth yn unol â threfniadau'r ysgol.
  • Mynychu Nosweithiau Rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
  • Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol.
  • Cyfrannu i'w ddatblygiad personol a phroffesiynol ei hun gan fynychu HMS yn ôl y galw.
  • Hybu blaenoriaethau CDY presennol yr ysgol
  • Cyfrannu'n bwrpasol i ddatblygu Ysgol Godre'r Berwyn i fod yn ganolfan sy'n cynrychioli'r arferion a'r safonau proffesiynol uchaf.
  • Cydweithio`n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun.

Cysylltiadau:

Bydd y sawl sydd yn y swydd yn:-

-rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu yn yr ysgol.

-gyfrifol am oruchwylio gwaith cynorthwy-ydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.

Yn ychwanegol gofynnir i chwi ymgymryd â'r dyletswyddau canlynol:
  • Ymgymryd a'ch dyletswyddau fel athro / athrawes sy'n gyfrifol am y maes / meysydd isod yn yr ysgol yn unol a Chynllun Datblygu'r Ysgol...
  • Cydweithio gydag athrawon eraill i ddatblygu polisi a chynllun gwaith yn y maes / meysydd isod yn unol a Chynllun Gwella'r Ysgol:


  • Mae'r uchod yn disgrifio`r ffordd y disgwylir i`r deilydd weithredu a chwblhau y dyletswyddau a nodir.

    Gellir newid y swydd ddisgrifiad a'r cyfrifoldebau penodol trwy gytundeb.

    • Ceisio ar lein - Sut?
    • Rhestr Swyddi