MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Cyfnod Allweddol 2 -Cyflenwi mamolaeth

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol: Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Bronington

Teitl y Swydd: Athro Cyfnod Allweddol 2

Llawn-amser, swydd dros dro dros absenoldeb mamolaeth

Manylion Cyflog MPS

Dyddiad dechrau cyflogaeth: 1 Mai 2024

Rydym yn chwilio am athro neu athrawes brwdfrydig a dawnus i ymuno â'n hysgol fywiog, sy'n tyfu.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:

• Brofiad o addysgu mewn dosbarth wedi ei hintegreiddio'n fertigol.

• Profiad o addysgu plant hynaf Cyfnod Allweddol 2.

• Arfer eithriadol yn y dosbarth a gallu cymell ac ymgysylltu â dysgwyr.

• Yn ysbrydoledig, creadigol, gofalgar a llawn brwdfrydedd i wneud dysgu'r plant yn bleserus a hwyliog.

• Gallu cryf i wahaniaethu cyfleoedd dysgu er mwyn bodloni anghenion yr holl ddysgwyr.

• Yn llawn cymhelliant â disgwyliadau yr un mor uchel o gyflawniadau'r plant, eu hymddygiad a datblygu eu sgiliau.

• Gofalgar, cefnogol a gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm.

• Ymrwymiad i gyfrannu at gymuned ehangach yr ysgol, sef mynychu digwyddiadau'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon, rhedeg clybiau allgyrsiol ac ati

• Dangos meddylfryd sy'n cefnogi twf a chroesawu newid a mentrau newydd

• Bod yn fodel rôl rhagorol i'r holl ddisgyblion.

• Gallu addysgu Cymraeg fel ail iaith

Gallwn gynnig:

• Plant sy'n awyddus ac yn frwdfrydig i ddysgu.

• Swydd yn ein hysgol lwyddiannus, hapus, sydd â gweledigaeth glir am welliant parhaus.

• Datblygiad Proffesiynol Parhaus effeithiol a chefnogaeth gan yr Uwch Dîm Arwain.

• Cyfle i weithio yn ein tîm cryf, proffesiynol a chefnogol.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 1 Mawrth 2024.

Os hoffech edrych o amgylch ein hysgol ymlaen llaw, cysylltwch â'r ysgol i drefnu taith.

Gan y bydd y swydd hon yn golygu y bydd gennych chi lawer o gyswllt â phlant a/neu oedolion diamddiffyn, bydd yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Y broses gyfweld:

Goruchwylio addysgu: Wythnos yn dechrau 4 Mawrth 2024

Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 11 Mawrth 2024

Mae rhagor o wybodaeth yma:

Cyfeiriad yr Ysgol: Ysgol Bronington, Lôn yr Ysgol, Bronington SY13 3HN

E-bost: mailbox@bronington-pri.wrexham.sch.uk

Rhif Ffôn: 01948 780283

Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbyniwn nid ydym bob amser yn gallu cysylltu â phob ymgeisydd yn unigol, felly os nad ydych chi wedi clywed gennym o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad yw'ch cais yn llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.