Amdanom Ni
"Gweithio gyda'n gilydd er lles dyfodol Sir Ddinbych."
Yn Sir Ddinbych rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol, lle gall pawb fod y gorau y gallant fod. Dymunwn wneud y broses ymgeisio a recriwtio yn un gadarnhaol i bawb ac rydym yn darparu cefnogaeth ychwanegol i'r rheiny sydd ei hangen.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn ymroddedig i Gyfle Cyfartal a Safonau'r Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw ffurflen gais a dderbynnir yn y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na ffurflen gais a gyflwynir yn Saesneg.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae'n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.