Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Gwenfo

Gwenfo Church in Wales Primary School
Primary School
EIN CYFEIRIADAU:
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Gwenfo
  • Gwenfo
  • Vale of Glamorgan
  • CF6 5AN
Amdanom Ni
Croeso i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Gwenfô

Ar ran cymuned ein hysgol, hoffwn eich croesawu'n gynnes i'n hysgol hapus a chyfeillgar iawn.

Yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Gwenfô credwn fod pob plentyn yn arbennig a bod ganddynt eu doniau unigryw eu hunain yr ydym yn eu meithrin mewn cymuned Gristnogol ofalgar. Rydym yn gymuned gynhwysol lle mae plant ac oedolion yn teimlo'n hapus, yn ddiogel ac yn cael eu parchu.

Rydym yn gwerthfawrogi pob plentyn ac yn darparu amgylchedd diogel, sicr ac ysgogol i ddatblygu cariad gydol oes at ddysgu. Rydym yn ymfalchïo yn ein cwricwlwm eang a chytbwys a safonau uchel yr addysgu a'r dysgu. Mae ein tîm ymroddedig, medrus o athrawon a chynorthwywyr addysgu yn gweithio mewn partneriaeth agos â rhieni i sicrhau bod y plant yn ein gofal yn cyrraedd eu potensial trwy gymorth targedig a ffocws ar les. Yn Gwenfô gosodwn werthoedd yr Efengyl wrth galon ein dysgeidiaeth a datblygwn y plentyn cyfan.