Grŵp Colegau NPTC

NPTC Group of Colleges
Further Education College
EIN CYFEIRIADAU:
  • Grŵp Colegau NPTC
  • Coleg Castell Nedd
  • Neath Port Talbot
  • SA10 7RF

  • Grŵp Colegau NPTC
  • Coleg Afan
  • Neath Port Talbot
  • SA13 2AL

  • Grŵp Colegau NPTC
  • Coleg Bannau Brycheiniog
  • Powys
  • LD3 9SR

  • Grŵp Colegau NPTC
  • Coleg Y Drenewydd
  • Powys
  • SY16 4HU

  • Grŵp Colegau NPTC
  • Academi Chwaraeon Llandarcy
  • Neath Port Talbot
  • SA10 6JD

  • Grŵp Colegau NPTC
  • Canolfan Adeiladwaith Abertawe
  • Swansea
  • SA6 8QL

  • Grŵp Colegau NPTC
  • Coleg Pontardawe
  • Neath Port Talbot
  • SA8 4EZ

  • Grŵp Colegau NPTC
  • Canolfan Adeiladwaith Maesteg
  • Bridgend
  • CF34 0TY
Amdanom Ni

Mae Grŵp Colegau NPTC yn Goleg Addysg Bellach ffyniannus sydd â naw campws ledled Cymru. Maent yn ymestyn o'r arfordir deniadol yn y de, drwy'r mynyddoedd hardd yng nghanolbarth Cymru ac ymlaen i borfeydd gwyrddlas braf y gogledd. O Abertawe, Castell-nedd Port Talbot i Aberhonddu a'r Drenewydd, rydym yn cyflwyno cyrsiau ym mhob maes posibl i fyfyrwyr, busnesau a'r gymuned. 

Rydym yn cyflogi staff proffesiynol ac ymroddedig mewn rolau academaidd a chefnogol sydd hefyd yn cyflawni'r safonau addysg a hyfforddiant uchaf ac sy’n ysgogi ein llwyddiant.  Mae ganddynt gyfoeth o brofiad ac maen nhw wedi adeiladu enw da yn y DU ac ar lefel ryngwladol lle mae rhaglenni wedi'u cyflwyno dramor yn Tsieina ac India.

Rydym yn falch o fod wedi datblygu nifer o raglenni a chyrsiau hyfforddiant proffesiynol yn cynnwys rhaglenni gradd eang i helpu gyda dilyniant gyrfa, ac mae'r rhain mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau addysg uwch o fri, megis Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol De Cymru a Pearson.

Mae'r rhain yn cynnwys y Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion (TBAR) a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer Ôl-16 i weithio mewn addysg bellach a'r sector ôl-orfodol ehangach a'r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCE) ynghyd â'r dystysgrif mewn Asesu Hyfforddiant a Sicrwydd Ansawdd. Fel man cychwyn rydym hefyd yn cynnig cymwysterau a hyfforddiant mewn Cymorth Addysgu ac i'r rhai sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, rydym hefyd yn cynnig cyrsiau a hyfforddiant Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.

Rydym yn dda iawn yn yr hyn a wnawn, ac mae hynny'n swyddogol yn ôl Estyn. Amlygodd ein hadroddiad diweddaraf ymgysylltiad rhagorol y Coleg â chyflogwyr sy'n llunio ein darpariaeth i ddiwallu anghenion lleol. Mae ein dysgwyr yn datblygu ymddygiadau sy'n cefnogi eu dyheadau gyrfa ac rydym yn eu paratoi ar gyfer dilyniant i ddysgu ar lefel uwch ac ar gyfer cyflogaeth. Mae ein myfyrwyr yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi, ac yn bwysicaf oll mae Estyn yn credu bod ein hathrawon yn gymwys ac yn brofiadol, gyda phrofiad diwydiannol, masnachol a busnes defnyddiol.

Ansawdd yr addysgu a'r ymroddiad hwn i ddarparu cyfleusterau rhagorol sydd wedi'u cydnabod yn barhaus dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2019, cawsom ein henwi fel y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru gan y Gwobrau Ymadawyr Ysgol. Daeth y Coleg hefyd yn yr ail safle yn y DU gyfan ar gyfer ansawdd yr addysgu, yn bedwerydd am y profiad dysgu, yn bumed wrth ddarparu cymorth personol ac yn 10fed ar gyfer asesiadau ac adborth. Yn yr un flwyddyn, enillodd ein Canolfan Academi'r Chweched Dosbarth yng Ngholeg Castell-nedd wobr am wella profiad y myfyrwyr yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru.

Yn 2020, fe wnaeth y Coleg yn arbennig o dda yn y gwobrau unwaith eto, gan gael ei enwi fel y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru, un o’r deg Darparwr Hyfforddiant Gorau yn y DU, a chyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori; y Darparwr Prentisiaethau Gorau yn y DU; y Coleg Addysg Bellach Gorau ar gyfer Hyfforddiant Prentisiaethau yn y DU, a'r Profiad Dysgu Gorau.

Cawsom ein graddio’n ‘Dda’ gan Estyn yn 2020 ac yn ôl ein Harolwg Boddhad Myfyrwyr 2023 2023, mae 95% o’n myfyrwyr presennol yn ein hargymell.