Coleg Catholig Dewi Sant

St David's Catholic College
Further Education College
EIN CYFEIRIADAU:
  • Coleg Catholig Dewi Sant
  • Cardiff
  • Caerdydd
  • CF23 5QD
Amdanom Ni

Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn Goleg Chweched Dosbarth ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed, sydd wedi’i leoli ar un campws yn ardal Pen-y-Lan, Caerdydd. Mae’r Coleg yn darparu addysg ar gyfer 1500 o ddysgwyr llawn amser ar draws ystod o gyrsiau lefel 2 a 3. 

Mae’r Coleg yn cynnig dewis o dros 50 cwrs, sy’n cynnwys cyrsiau Safon Uwch, cyrsiau galwedigaethol lefel 3, a rhai cyrsiau lefel 2. Ceir rhestr lawn o’r pynciau a gynigir gennym ar wefany Coleg. 

Mae gan Goleg Dewi Sant enw da am ei lwyddiant academaidd cryf, o fewn amgylchedd cefnogol. Yn 2019, gwnaeth 28.3% o fyfyrwyr ennill gradd ‘A*’ neu ‘A’ ar lefel Safon Uwch, ac aeth dros 405 o fyfyrwyr ymlaen i Brifysgol – ac o’r rhain, aeth 40% ohonynt ymlaen i Brifysgolion Grŵp Russell (yn 2020, roedd ein graddau ac ystadegau mynediad i brifysgol yn uwch)  

Er bod llwyddiant academaidd dal yn bwysig, pwysleisia Coleg Dewi Sant bwysigrwydd datblygiad y person yn ei gyfanrwydd, boed hynny’n foesol, emosiynol, neu’n ysbrydol. 

Mae’r Coleg yn derbyn dysgwyr o ysgolion eang ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg, Caerffili, a Phontypridd, gan gynnwys pedair ysgol uwchradd Gatholig yr ardal. Mae’r Coleg yn croesawu myfyrwyr o bob ffydd a myfyrwyr heb ffydd o gwbl.