Coleg Gwent

Coleg Gwent
Further Education College
EIN CYFEIRIADAU:
  • Coleg Gwent
  • Casnewydd
  • Newport
  • NP19 4TS

  • Coleg Gwent
  • Cwmbran
  • Torfaen
  • NP44 1DF

  • Coleg Gwent
  • Trefynyw
  • Monmouthshire
  • NP15 1XJ

  • Coleg Gwent
  • Crosskeys
  • Newport
  • NP11 7ZA

  • Coleg Gwent
  • Glynebwy
  • Blaenau Gwent
  • NP23 6GL
Amdanom Ni

Fel un o'r colegau sy'n perfformio orau yng Nghymru, dyma'r lle i ragori. Ers canrif a mwy, rydym wedi bod yn ceisio cynnig rhywbeth i bawb, a helpu pobl leol i lwyddo yn y llwybr gyrfa maent yn ei ddewis o fewn y sector addysg a thu hwnt.

Mae ein pum campws wedi'u lleoli ym Mrynbuga, Glynebwy, Crosskeys, Casnewydd a Chwmbrân - felly mae astudio'n agos i adref yn haws nag erioed. Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser, rhan amser, lefel prifysgol, e-ddysgu, cymwysterau mynediad a phrentisiaethau, felly mae rhywbeth ar gael i bawb. Rydym yn darparu ar gyfer bob lefel, pa un ai eich bod yn cychwyn eich taith yn y sector addysg, yn newid gyrfa, eisiau gwella eich set sgiliau, neu'n dychwelyd at addysg ar ôl ychydig o flynyddoedd. Mae croeso i bawb yn Coleg Gwent, ac rydym yn falch o fod yn goleg cyfeillgar, cynhwysfawr ac amrywiol sydd â chymuned sy'n gymysgfa o grwpiau oed, o unigolion sydd wedi gadael yr ysgol i ddysgwyr hŷn.

Mae miloedd o unigolion yn ymuno â ni bob blwyddyn i fwynhau ein haddysg safon uchel, cefnogaeth eang, gweithgareddau allgyrsiol a chanlyniadau rhagorol. Mae ein tiwtoriaid yn arbenigwyr yn eu meysydd, ac mae ein cyfleusterau sydd o safon y diwydiant yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu llwybr gyrfaol. Mae ein cysylltiadau cryf a phartneriaethau gweithio gyda chyflogwyr lleol yn ein helpu ni i ddatblygu cwricwlwm y dyfodol, gan ymdrin â phrinder mewn sgiliau. Mae ein graddedigion yn gadael y coleg gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder angenrheidiol i ddilyn gyrfa yn y sector addysg, neu ddatblygu ynddi.

Felly, pa un ai eich bod eisiau gyrfa yn y sector addysg, neu'n chwilio am ffyrdd i uwchsgilio drwy barhau â datblygiad proffesiynol parhaus, mae gennym gwrs ar eich cyfer.

Cymwysterau

Tystysgrif CACHE mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2 
Mae'r cwrs yn cydnabod y gwaith cefnogi hanfodol sy'n digwydd mewn ysgolion a cholegau, ac mae wedi'i gynllunio i gynorthwyo cynnydd yng ngweithlu'r plant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a cholegau a darparu sgiliau trosglwyddadwy. Asesir unedau yn eich lleoliad ysgol/coleg a thrwy aseiniadau ysgrifenedig.

Tystysgrif CACHE mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3 

Yn dilyn y cymhwyster Lefel 2, mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i helpu'r rhai mewn rôl gefnogi mewn ysgol i gydnabod y gwaith cefnogi hanfodol a wneir mewn ysgolion a sut mae'n helpu plant i lwyddo. Mae'r cwrs hwn yn ychwanegu cefnogaeth ar gyfer dilyniant a throsglwyddiadau ar draws gweithlu'r plant mewn ysgolion. 

Dyfarniad City & Guilds mewn Addysg a Hyfforddiant Lefel 3 

Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau mae athrawon/hyfforddwyr eu hangen mewn addysg bellach neu hyfforddiant sgiliau, ac yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o’ch rôl a’ch cyfrifoldeb yn ymwneud â deddfwriaeth, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynwysoldeb a bodloni anghenion dysgwyr. 

AHO (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol)
Astudiwch eich AHO (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) a chymhwyso i addysgu unigolion 16 neu hŷn, o unigolion sy'n gadael yr ysgol sy'n bwriadu mynd i'r Brifysgol, i oedolion sy'n dysgu sydd eisiau newid gyrfa, a'r bobl hynny sy'n dychwelyd at addysg ar ôl seibiant o rai blynyddoedd.

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (ProCert) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET) 

Dyma'r llwybr y byddwch yn ei ddilyn os nad ydych eisoes wedi cwblhau gradd. Bydd y cwrs hyblyg hwn yn rhoi cymhwyster cydnabyddedig i chi weithio yn y sector hyfforddi ac addysg ôl-orfodol (addysg i oedolion) mewn colegau, dosbarthiadau chweched dosbarth, addysg oedolion a chymunedol, darparwyr hyfforddiant yn seiliedig ar waith a lleoliadau dysgu i droseddwyr.

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) 

Dyma'r llwybr y byddwch yn ei ddilyn os ydych wedi graddio. Bydd y cyrsiau hyblyg hyn yn rhoi cymhwyster cydnabyddedig i chi weithio yn y sector hyfforddi ac addysg ôl-orfodol (addysg i oedolion) mewn colegau, dosbarthiadau chweched dosbarth, addysg oedolion a chymunedol, darparwyr hyfforddiant yn seiliedig ar waith a lleoliadau dysgu i droseddwyr. 

Amrywiaeth o gyrsiau eraill

Rydym hefyd yn cynnig nifer o gyrsiau er mwyn dod yn addysgwr mewn lleoliad addysg bellach a chyfoethogi eich sgiliau a'ch diddordebau yn eich maes. Gweler ein hamrywiaeth lawn o gyrsiau yma neu cofrestrwch ar gyfer ein Digwyddiad Agored Rhithiwr nesaf i ddysgu mwy am ymuno ag un o'r colegau sy'n perfformio orau yng Nghymru.