Amdanom Ni
- Darpariaeth hyblyg trwy ymagwedd dysgu cyfunol, gyda phrofiad preswyl ar ddechrau pob semester, gyda dysgu ar-lein a chymorth wyneb-yn-wyneb gyda thiwtoriaid i ddilyn, yn ôl yr angen; gan ganiatáu i chi astudio ochr yn ochr â gweithio
- Datblygu gwybodaeth a sgiliau craidd ar gyfer ymarfer gwaith ieuenctid ac addysg anffurfiol sy’n drosglwyddadwy i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol
- Mae gan y cwrs werth ychwanegol yn cynnwys cyfleoedd am Ddablygiad Proffesiynol Parhaus a chyfleoedd hyfforddiant ymarferol ychwanegol.
- Dysgu a chael profiad gyda 300 awr o ymarfer gwaith maes dan oruchwyliaeth, gyda lleoliad ym mhob blwyddyn astudio. Gall hyn fod mewn lleoliadau maes gwaith naill ai yn y DU neu’n rhyngwladol, e.e. gyda lleoliad Ewropeaidd a ariennir yn rhannol.
- Datblygu sgiliau mewn gwaith tîm, cyfathrebu cadarnhaol, gweithio gyda grwpiau ac unigolion, arfer adfyfyriol ac arwain eraill
- Yr opsiwn o deilwra eich dysgu i fod yn addas ar gyfer eich maes ymarfer arbenigol a’ch diddordebau trwy gyd-drafod dysgu ac ymchwil.