BETH YW DARLITHYDD ADDYSG BELLACH YM MAES SGILIAU HANFODOL?

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cefnogi datblygiad y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer addysg, gwaith a bywyd, ac maent wedi’u hanelu at bobl sy’n cael mynediad at ddysgu mewn ystod eang o amgylcheddau y tu allan i ysgolion prif ffrwd.

Rydym yn gweithio’n agos â dysgwyr i asesu eu hanghenion a chynllunio rhaglenni cyflwyno sy’n bodloni eu gofynion unigol

Gall y rôl fod yn heriol yn aml. Ond rydym yn meithrin perthnasoedd cryf â dysgwyr er mwyn ymgysylltu â nhw, eu hysgogi a’u cefnogi i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a’u dealltwriaeth, ac i ddefnyddio’r medrau hyn yn annibynnol yn eu bywyd bob dydd ac yn y gwaith.

Rydym yn cefnogi datblygiad y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer addysg, y gweithle, a bywyd, a gweithiwn â grŵp amrywiol o ddysgwyr mewn ystod eang o amgylcheddau.

Rydym yn cydweithio ar draws adrannau mewn ffordd fyfyriol a rhagweithiol er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i ddysgwyr ac unigolion.

* Yn ogystal, gall Darlithwyr Sgiliau Hanfodol weithio yn y sector dysgu seiliedig ar waith (DSW) (lle cânt eu hadnabod yn aml fel Tiwtoriaid Sgiliau Hanfodol). Dysgwch sut beth yw bod yn Diwtor Sgiliau Hanfodol â darparwr DSW (dolen i silwét arall)

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Gweithio mewn rolau eraill yn y sector dysgu seiliedig ar waith, y sector AB, neu’r sector addysg oedolion
  • Ennill Cymhwyster Ymarferydd Sgiliau Hanfodol Lefel 3 yn ddiweddar

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

Bydd Darlithydd Sgiliau Hanfodol angen Cymhwyster Ymarferydd Sgiliau Hanfodol Lefel 3 / Tystysgrif Lefel 3/5 mewn Addysgu Oedolion / cymhwyster Lefel 5 mewn disgyblaeth berthnasol / cymhwyster Hyfforddiant, Asesu a Sicrhau Ansawdd, neu gymhwyster asesydd cyfatebol (neu’n gweithio tuag at hynny).

Er nad yw’n orfodol ar gyfer cael eu penodi i’r rôl, mae’n bosibl y bydd darlithwyr yn cael eu hannog i ennill tystysgrif addysg i raddedigion (TAR) mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO), sef rhaglen addysg athrawon broffesiynol sy’n darparu cymhwyster yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL
  • y gallu i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr
  • sgiliau cyfathrebu cryf
  • rheoli dosbarth yn effeithiol
  • y gallu i gydweithio â phobl ar lefelau gwahanol
  • sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
  • sgiliau gwrando ac arsylwi cryf
  • hyder wrth gyflwyno i grwpiau o fyfyrwyr
  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh, gan gynnwys technolegau digidol, i gefnogi addysgu a dysgu
  • sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Chwiliwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

Gall y rhain gynnwys:

  • Cynghorydd Ansawdd Mewnol 
  • Rheolwr Sgiliau