BETH YW RHEOLWR ADNODDAU DYNOL?

Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd sylweddol i ddarparu cyngor ac arweiniad proffesiynol a chyson i reolwyr a staff ynghylch ystod eang o faterion yn ymwneud â phobl, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth bresennol, arferion gorau, a pholisïau a gweithdrefnau ein sefydliad.

Mae ein rôl yn gallu bod yn heriol, ac weithiau mae angen i ni gynnal sgyrsiau anodd â chydweithwyr. Ond mae’n rôl amrywiol a chyffrous, a gall ymwneud â llawer o dasgau a chyfrifoldebau gwahanol.

Rydym yn rheoli ystod amrywiol, a chymhleth ar adegau, o waith achos gweithwyr, gan gynnwys cyfrifoldeb dros recriwtio a chynnydd, yn ogystal â chwynion a diswyddiadau, ar gyfer yr holl weithwyr sy’n gweithio yn ein sefydliad.

Rydym yn gwybod mai ein gweithwyr yw ased mwyaf gwerthfawr ein sefydliad, felly rydym yn sicrhau ein bod yn cael y gwerth mwyaf posibl gan ein gweithwyr, ac yn ymdrechu i’w helpu i ddatblygu’n broffesiynol.

Mae’n bleser mawr i ni weld pobl yn tyfu ac yn datblygu yn eu gyrfaoedd, ac mae cael y cyfle a’r fraint i hybu datblygiad pobl yn y gweithle a’u helpu i gyflawni eu potensial yn un o agweddau mwyaf gwerthfawr y rôl. Fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau bod gweithdrefnau trylwyr ar waith a’n bod yn gosod targedau clir a theg ar gyfer gwella.

Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth gyfredol am gyfraith cyflogaeth i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau AD sy’n ysgogi perfformiad ac yn lliniaru anghydfodau. Rydym yn monitro ac yn adolygu’r rhain yn barhaus er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu arferion gorau.

Rydym yn meithrin amgylchedd lle mae pob gweithiwr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys. Mae hyn yn gwneud ein sefydliad yn lle deniadol i weithio ynddo i amrywiaeth o ddarpar ymgeiswyr.

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Swyddog/cynghorydd AD
  • Rôl weithredol

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

Disgwylir i Reolwr AD feddu ar Ddiploma Cysylltiol Lefel 5 y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) mewn Adnoddau Dynol neu gymhwyster cyfatebol, a gradd/cymhwyster ôl-raddedig mewn AD neu gymhwyster cyfatebol.

 

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL

 

 

  • sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol, llafar ac ysgrifenedig rhagorol
  • y gallu i ddeall gwybodaeth gymhleth, gan gynnwys cyfraith cyflogaeth
  • sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
  • sgiliau gwrando ac arsylwi cryf
  • y gallu i gydweithio â phobl ar lefelau gwahanol
  • amynedd, sensitifrwydd a phwyll

 

 

 

 

  • dealltwriaeth dda o gyfraith cyflogaeth y DU
  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh
  • sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Chwiliwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

Gall y rhain gynnwys:

  • Pennaeth / cyfarwyddwr AD
  • Cyfle i arbenigo mewn maes penodol a dod yn arbenigwr (e.e. dysgu a datblygu / recriwtio)
  • Ymgynghorydd llawrydd