MANYLION
- Lleoliad: Caerdydd
- Dechrau: 23 Hyd, 2025 - 8:30
- Diwedd: 23 Hyd, 2025 - 16:00
Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2025 - Twf, Cyfle a Thegwch

Mae ColegauCymru yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad ein Cynhadledd Flynyddol a fydd yn digwydd ar 23 Hydref 2025 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd Cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar Dwf, Cyfle a Thegwch - a sut y gall y sector addysg bellach ysgogi newid cadarnhaol i ddysgwyr, cymunedau a'r economi yng Nghymru.
Gydag etholiad Senedd 2026 ar y gorwel, bydd y Gynhadledd yn archwilio beth sydd ei angen ar y sector gan Lywodraeth nesaf Cymru i ffynnu ac i gyflawni ei llawn botensial.