MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe
  • Dechrau: 15 Hyd, 2025 - 10:30
  • Diwedd: 15 Hyd, 2025 - 15:00
Mwy o wybodaeth

Ffair Yrfaoedd Prifysgol Abertawe 2025/26

Ffair Yrfaoedd Prifysgol Abertawe 2025/26

Ymunwch â ni yr hydref hwn wrth i ni ddod â miloedd o fyfyrwyr a graddedigion diweddar dawnus ac uchelgeisiol ynghyd, gan eu cysylltu â chyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Bydd y Ffair Yrfaoedd flynyddol yn digwydd ar:

Sylwer; mae ein Ffair Gyrfaoedd 2025/2026 bellach wedi'i harchebu'n llawn.

Campws Singleton: Dydd Mawrth 14 Hydref 2025, 10:30 - 15:00

Campws y Bae: Dydd Mercher 15 Hydref 2025, 10:30 - 15:00

Achubwch y blaen ar eich cystadleuwyr drwy recriwtio graddedigion Prifysgol Abertawe neu gynnig cyfleoedd interniaeth i'r genhedlaeth nesaf o ddoniau.

Bydd cyflogwyr yn gallu rhyngweithio â thros 2,000 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig dawnus, yn ogystal â graddedigion diweddar. Rhannwch arbenigedd eich cwmni, codwch ymwybyddiaeth o'ch brand a chwiliwch am y seren nesaf i’ch gweithlu!