MANYLION
  • Lleoliad: Ar-lein
  • Dechrau: 08 Ebrill, 2025 - 6:00 pm
  • Diwedd: 08 Ebrill, 2025 - 7:00 pm
  • Telerau:  School
Mwy o wybodaeth

lwybrau cefnogol a hyblyg i addysgu: Noson agored TAR ar-lein Y Brifysgol Agored yng Nghymru

lwybrau cefnogol a hyblyg i addysgu: Noson agored TAR ar-lein Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Gallwch helpu i lywio’r dyfodol ar gyfer plant yng Nghymru trwy ddod yn athro. Mae rhaglen gefnogol TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru yn paratoi athrawon i weithio mewn modd cynhwysol gyda ffocws cryf ar y cwricwlwm i Gymru, cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Fel athrawon, nid addysgu yn unig a wnawn; rydym yn ysbrydoli drwy’r straeon a rannwn a’r hunaniaeth a ddown i’r ystafell ddosbarth. Mae cynrychiolaeth yn bwysig gan ei fod yn ehangu gorwelion - nid yn unig ar gyfer myfyrwyr, ond i gymunedau cyfan. Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i faethu amrywiaeth a chydraddoldeb mewn addysg. Credwn fod eich llais, eich profiadau bywyd, a’ch persbectif unigryw yn amhrisiadwy, a gallant helpu i lywio dyfodol mwy cynhwysol a chynrychiadol i addysgu.

Yn ystod y digwyddiad ar-lein, bydd ein tîm TAR arbenigol yn egluro mwy am ein llwybrau TAR rhan amser a chyflogedig unigryw sydd wedi'u cynllunio i'ch galluogi i astudio o amgylch eich bywyd ac ennill cyflog wrth i chi ddysgu. Mae'r ddau lwybr yn eich galluogi i gydbwyso eich astudiaethau a'ch ymrwymiadau presennol fel bod yn rhiant, gofalu a gweithio. Byddwch hefyd yn clywed gan un o’n hathrawon dan hyfforddiant presennol wrth iddynt drafod eu profiadau, a byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen.