- Lleoliad: Abertawe
- Dechrau: 27 Hydref, 2023 - 10:00 am
- Diwedd: 27 Hydref, 2023 - 1:00 pm
- Telerau:
Ffair Swyddi Abertawe

Ynglŷn â Ffair Swyddi Abertawe
Mae Ffair Swyddi Abertawe wedi'i lleoli'n ganolog yn Stadiwm Swansea.com, Glandŵr, Abertawe, SA1 2FA.
Mae'r digwyddiad hwn yn denu cymysgedd o gyflogwyr gwahanol o wahanol ddiwydiannau i gyd yn recriwtio ar gyfer swyddi lleol.
Mae Ffair Swyddi Abertawe yn ffordd wych o siarad â darpar gyflogwyr wyneb yn wyneb. Gallwch gofrestru gyda chyflogwyr am swyddi, casglu gwybodaeth am gyflogwyr, gofyn cwestiynau iddynt, gwneud cais am swyddi, neu hyd yn oed gael cyfweliad bach ar y diwrnod.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i'w fynychu, ac nid oes angen cofrestru.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw:
• Cyrraedd rhwng 10am ac 1pm.
• Dewch â CV os yw'n bosibl (fe'ch cynghorir ond nid yw'n hanfodol).
• Byddwch yn barod i sgwrsio â gwahanol bobl sy'n ymwneud ag AD o blith cyflogwyr sydd am recriwtio staff newydd.
Gwiriwch a oes gan y lleoliad barcio am ddim, os ydych yn teithio mewn car.
Gair i gall - gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â phob arddangoswr yn y Ffair Swyddi. Dydych chi byth yn gwybod pa swyddi sydd ganddyn nhw ar gael, felly, peidiwch ag edrych ar eu pop-ups yn unig a meddwl nad ydyn nhw ar eich cyfer chi, ewch i gael sgwrs!