MANYLION
- Lleoliad: Llandysul,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 - Ysgol Gynradd Talgarreg
Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Rydym am gyflogi unigolyn brwdfrydig i ymgymryd â'r rôl uchod mor fuan â phosib. Swydd hyd at 31ain o Awst 2024 yw hon i gychwyn. Efallai y bydd posibiliad i ymestyn y swydd wedi'r dyddiad hynny.
Ysgol wledig yw Ysgol Talgarreg a'r Gymraeg yw prif gyfrwng bywyd addysgol, cymdeithasol a diwylliannol yr ysgol. Rydyn ni'n ganolog i fywyd y pentref a'r ardal leol.
Mae hyrwyddo egwyddorion Cenhadaeth ein Cenedl yn sylfaen gref i weledigaeth yr ysgol ac rydyn ni'n ymgorffori cwricwlwm cyfoethog, cynhwysol, Cymreig ei natur yn ddyddiol er mwyn Llywio'r Ffordd at Ddyfodol Disglair i bob un o'n disgyblion. Rydyn ni'n sicrhau bod pob dysgwr yn ymrwymo'n aelodau llawn o gymuned ein hysgol, ac yn cael mynediad i'r cwricwlwm ehangach a holl weithgareddau'r ysgol.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd hon.
Yn Ysgol Talgarreg cewch gyfle i weithio gyda phlant ymroddgar, cymuned gefnogol a chriw o staff cydwybodol sydd yn rhoi blaenoriaeth clir ar les disgyblion a chynnal safonau uchel.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth Mrs Bethan Morgan-Jenkins ar 01545 590683 neu drwy e-bost: Morg-JenkB1@hwbcymru.net
Bydd cyfweliad ar ddydd Iau, 22ain o Chwefror am 4 o'r gloch.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
Darllen mwy

- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy