MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Carmarthenshire,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £27,459 - £30,722
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 16 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £27,459 - £30,722
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 3585
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig
Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd E +4%
Cyflog:
£27,459 - £30,722
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.23 - £15.92
Oriau Contract:
32 awr 30 munud
Dewch i ymuno â'n tîm
Gwasanaeth y Gymraeg mewn Addysg
Yn eisiau erbyn 1 Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 (Iaith Gymraeg)
Cyfle Cyffrous i Ymuno â Gwasanaeth Y Gymraeg mewn Addysg
Dyma gyfle unigryw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gefnogi gweithrediad un o brif flaenoriaethau'r Cyngor.
- Ydych chi'n angerddol am gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu Cymraeg?
- A allwch chi greu amgylchedd cynnes, diogel ac ysbrydoledig i ddysgwyr sy'n newydd i'r iaith?
- Ydych chi'n awyddus i chwarae rôl allweddol mewn canolfan drochi flaengar ac i gefnogi ysgolion ar draws yr awdurdod?
Gweledigaeth y Bartneriaeth Trochi Iaith Gymraeg yn Sir Gâr yw: G rymuso pob dysgwr i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus a balch.
Mae ein gwerthoedd craidd yn disgrifio'r egwyddorion sy'n ein harwain, yn siapio ein hymddygiad ac yn diffinio pwy ydym ni fel tîm a phartneriaeth:
Cymreictod - Creadigrwydd - Cydraddoldeb - Dyfalbarhad
Y Rôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 3 rhagorol, creadigol ac ymroddedig i ymuno â'n Bartneriaeth Trochi Iaith Cymraeg.
Bydd deiliad y swydd yn:
- Cefnogi'r athro/athrawes wrth ddarparu profiad trochi iaith o safon uchel i ddisgyblion sy'n newydd i addysg cyfrwng Cymraeg
- Gweithio'n uniongyrchol gyda grwpiau bach ac unigolion i ddatblygu hyder a rhuglder yn y Gymraeg
- Monitro cynnydd dysgwyr a chofnodi arsylwadau i lywio camau nesaf
- Addasu adnoddau a gweithgareddau i ddiwallu anghenion unigol
- Cefnogi dulliau caffael iaith, gan gynnwys chwarae, gweithgareddau rhyngweithiol a strategaethau trochi
- Cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan ddefnyddio dulliau sy'n ymwybodol o drawma a niwrowahaniaeth
- Cydweithio'n agos â rhieni/gwarcheidwaid, arweinwyr ysgolion ac asiantaethau partner
- Gweithio gyda chydweithwyr mewn canolfannau trochi eraill yn lleol ac thu hwnt
Bydd y rôl yn allweddol wrth sicrhau darpariaeth drochi ardderchog ac ecwiti i bob dysgwr.
Beth mae ein dysgwyr yn ei ddymuno
- Rhywun sy'n gwrando ac yn ein trin gyda pharch
- Rhywun sy'n ein helpu i deimlo'n ddiogel ac yn hyderus
- Gweithgareddau diddorol, creadigol ac ysbrydoledig
- Cefnogaeth a annogaeth pan fydd pethau'n anodd
- Rhywun sy'n ein gwneud i ni deimlo'n rhan o dîm ac yn dathlu ein llwyddiannau
Beth allwn ni ei gynnig
- Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dysgwyr sy'n dechrau ar eu taith Gymraeg
- Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol gyda thîm angerddol ac ymroddedig
- Cyfleoedd datblygu proffesiynol rhagorol, gan gynnwys hyfforddiant arbenigol ym maes trochi a chaffael iaith
- Profiad gwerthfawr o weithio o fewn system addysg yr awdurdod lleol
- Mynediad at adnoddau o ansawdd uchel ac arferion arloesol
- Diwylliant sy'n gwerthfawrogi lles staff, cydweithio a rhannu arfer dda
Ydych chi'n barod i ymuno â ni?
Os ydych chi'n barod am her, yn arloesol ac yn angerddol am gefnogi caffael yr iaith Gymraeg, hoffem glywed gennych.
Am sgwrs anffurfiol, mae croeso cynnes i chi gysylltu â: Chris Newcombe - CJNewcombe@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
proffil-swydd-job-profile - TA3.pdf - 177KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
29 Gorffennaf 2026
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 16/07/2026, 12:00
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.