MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Testun: Addysg Bellach
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Mehefin , 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth……
Teitl y Swydd: Cydlynydd Gofal Anifeiliaid
Safle: Llaneurgain
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £32,215 - £34,757
Ydych chi’n angerddol am les anifeiliaid ac yn chwilio am gyfle cyffrous i arwain?
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Gydlynydd Gofal Anifeiliaid i ymuno â’n tîm ar safle Llaneurgain.
Fel Cydlynydd Gofal Anifeiliaid, byddwch yn arwain a rheoli tîm o dechnegwyr i sicrhau iechyd a lles ein casgliad o anifeiliaid, gan ddarparu cymorth o ansawdd uchel i’n holl ddysgwyr a’r cleientiaid i gefnogi cenhadaeth ac amcanion strategol y coleg.
Byddwch yn gyfrifol am fodloni safonau’r corff llywodraethu am ofal anifeiliaid, cynnal gofal milfeddygol addas, a sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw. Byddwch hefyd yn rheoli’r cyfleusterau ac adnoddau ymarferol, gan gynnwys cael gafael ar ddeunyddiau, adnoddau a llety a’u cynnal, yn ogystal ag uwchraddio cyfleusterau i fodloni anghenion y cwricwlwm.
Fel arweinydd, byddwch yn recriwtio, hyfforddi, a datblygu eich tîm o dechnegwyr anifeiliaid, annog diwylliant o wella parhaus a sicrhau bod y canllawiau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn. Byddwch hefyd ar gael ar alwad ar gyfer sefyllfaoedd brys anifeiliaid ac efallai y bydd angen teithio i gael sylw milfeddygol.
Er mwyn llwyddo yn y swydd hon, bydd gennych angerdd am les anifeiliaid a hanes y gellir ei brofi o arwain a rheoli effeithiol. Byddwch yn anhunanol, cyfrifol, ac wedi ymrwymo i egwyddorion llywodraethu da, a byddwch yn ffynnu mewn amgylchedd deinamig a chyflym.
Os rydych yn barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa gofal anifeiliaid, gwnewch gais am y swydd Cydlynydd Gofal Anifeiliaid yng Ngholeg Cambria heddiw.
Gofynion:
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

- Addysg lefel 4 o leiaf mewn pwnc perthnasol sy'n ymwneud ag anifeiliaid, neu brofiad proffesiynol cyfwerth y gellir ei brofi.
- Gallu arddangos profiad blaenorol o arwain, hyfforddi ac ysbrydoli tîm neu’r gallu i wneud hynny.
- Profiad cynhwysfawr o weithio yn y diwydiant anifeiliaid a gofalu am ystod eang o anifeiliaid.
- Cymhwyster rheoli neu barodrwydd i weithio tuag at hynny.
- Gallu amlwg i reoli ac arwain tîm.
- Hyblyg a gallu gweithio ar alwad ar gyfer ymgynghoriad ar sefyllfaoedd brys anifeiliaid.
- Trwydded yrru lawn y DU.